HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Troed a Mynydd Llangors 7 Tachwedd


Daeth 13 ynghyd ar fore’r gêm rhwng Cymru a Seland Newydd i fynd am Fynydd Troed. Mae’n fynydd sydd i’w weld fel cwch a’i ben i lawr o’r Bannau dwyreiniol a’r Mynyddoedd Duon, ac yn llenwi’r llygad wrth ddod drosodd o Lyswen am Lanfilo ac Aberhonddu ar yr A470. Ond mynydd na fu’r Clwb yn ei ddringo o’r blaen.

Gadael ein ceir ym maes parcio’r Farmers Arms, Cwm Du (ar hewl Crughywel i Dalgarth) a dringo Pen Tir i’r gorllewin, mynydd sy’n ddu gan lus yn hytrach na phorffor gan rug ym mis Awst. Disgyn wedyn i Gwm Sorgwm cyn codi eto ar fawd Mynydd Troed, a llwybro i’r gogledd nes cyrraedd y maen mesur wrth ei sawdl serth. Roedd y tywydd yn brafiach o lawer na’r darogan – dim cawod o gwbl – a golygfeydd gwych i’w cael, o Ben y Fan i’r gorllewin i Ben y Gadair Fawr yn y dwyrain.

Disgyn wedyn i’r bwlch uwch Capel y Wern i gael cinio, cyn dringo talcen Mynydd Llangors a dilyn y grib am y de. Torri i lawr drwy lwybr rhedyn at Lwynau Mawr, ac yn ôl i’r dafarn mewn pryd i weld Lloegr yn colli yn erbyn Awstralia wrth wlychu pig yn haeddiannol.

Wedyn daeth y glaw!

Adroddiad gan Rhys Dafis

Llunau gan Guto Evans ar Fflickr