HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Aran (Taith Steddfod) 6 Mehefin


Erbyn i’r partiwyr gyrraedd pen y mynydd roedd y balŵns ac addurniadau parti a osodwyd yn gynharach wedi eu chwythu i ebargofiant gan y dymestl. Serch hynny da oedd gweld bod pymtheg aelod yn parhau a thraddodiad dewr y Clwb ac wedi derbyn yr her o gyrraedd copa’r Aran Benllyn ar Fehefin 6ed. Daeth George, Maldwyn, Alun Gelli, Gwen Aaron, Sian a Leusa i fyny o Gwm Cywarch ac Alwen, Ceri, Myfyr, Gwyn, Sioned a Llew o Lanuwchllyn. Gwelwyd Arwel yn arwain Rhodri a Jeremy i lawr drwy’r niwl wedi methu dringo Craig Geifr yn y gwynt a’r glaw. Bu criw llwybr Llanuwchllyn yn disgwyl yn agos at awr am ddewrion Cwm Cywarch ar y copa - profiad a oedd yn gryn brawf ar eu gwytnwch yn y corwynt a chwyrliai rhwng y creigiau! Roedd gweld y chwech yn ymddangos o’r cymylau’n rhyddhad a ninnau’n barod i’w hegli hi i lawr am y Llan am baned yn Nhy’n Gornel.

Diolch i Gwyn am ddanfon y gyrwyr yn ôl i Gwm Cywarch at eu ceir. Pa bryd tybed, os erioed, yn hanes y Clwb y bu diwrnod efo saith arweinydd i wyth aelod ? Diolch i’r arweinwyr am eu parodrwydd i gydymffurfio a chynlluniau ofer y trefnydd. Os bu’r i’r tywydd andwyo dathliadau eisteddfodol y dydd nid felly'r nos. Roedd chwech ar hugain yn bresennol i fwyta a joio yn yr Eryrod - gweler lluniau Gerallt am dystiolaeth o’r miri a gafwyd - llwyddwyd i godi £140 drwy gyfraniadau a raffl at gronfa Eisteddfod y Bala. Diolch i bawb am eu cefnogaeth - yn enwedig y mynyddwyr GO IAWN a fentrodd i’r mynydd! Cofiwch alw heibio stondin y Clwb ar faes yr Eisteddfod a gwyliwch raglen y Clwb am fanylion y daith eisteddfodol nesaf!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr

Yn ôl Llew yr olygfa y dylid fod wedi ei fwynhau yw'r un yn llun rhif 3! Wir-yr!