HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Te Parti Steddfod Y Bala 6 Mehefin


Wel, dyna oedd y teitl swyddogol, beth bynnag!

Mae un neu ddau (!) o luniau a dynnwyd gan Gerallt Pennant ar y noson yn Yr Eryrod, Llanuwchllyn, yn dilyn teithiau'r dydd i'w gweld ar Fflickr

Ychydig iawn o de a welir! (gol.) Danfoner unrhyw lythyrau cyfreithiwr ayyb. at y ffotograffydd!>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>

Ar Ddiwrnod “Te Parti’r ‘Steddfod”

Aelodaeth y Clwb sy’n lleihau
A’r cerddwyr go iawn yn prinhau.
Mae’r cadeirydd yn poeni.
“Pa beth a wnawn ni ?
Does neb yn troi fyny
Er ffonio a threfnu.
Y glaw sy’n pistyllio
A’r gwynt yn chwyrlio.”

“Os nad am fynydda,”
Medd Clive wrth bwyllgora,
“Rhaid cael enw gwell
Ar y Clwb yn y ba-bell
Ar faes yr Eisteddfod,
Lle bydd pawb yn c’warfod.”

“Cynigiaf,” medd Shane,
“Gan fod cymaint yn hen
A’u gwalltiau’n teneuo,
A’u cymalau’n breuo,
A’u hoffter at wledda
A sgwrsio a diota
Yn gryfach o lawer
Nac at fynydda – fel eu harfer.
Cynigiaf,” medd eto
Yn siomedig ei osgo,
“Mai gwell fyddai newid
Enw’r Clwb – er mawr fy ngofid,
O Glwb Mynydda Cymru
I Glwb Ciniawa Cymru!”

“Na!” medde Llew yn bendant,
wedi danto, “ma gen i welliant.
Ychwanegu un gair yn unig
Sydd raid, “ ebe e yn lloerig.
“Cynigiaf newid yr enw rhag blaen
O’n hannwyl Glwb Mynydda Cymru
I Glwb Mynyddwyr Meddal Cymru”
Ac eisteddodd lawr wedi cynhyrfu!

Mynyddwraig cader freichiau (dros dro) a’u cant!