HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 1 Ionawr


Daeth 16 at eu gilydd yn brydlon ym maes parcio Pen y Pass ar fore bendigedig – sych ac oer. Wedi’r drafodaeth a’r cyfarchion Dydd Calan arferol, dyma benderfynu y byddai hanner y grwp yn mynd am Grib Goch, a’r gweddill am lwybr y PyG.

Chydig o syndod o ganfod fod y Grib Goch yn hollol sych o eira a rhew. Taith braf a hamddenol, golygfeydd gwych o Lyn Llydaw heulog yn syth oddi tanom, tra bod y barrug i’w weld yn oedi’n hir ar hyd Bwlch Llanberis. Sgwrs ar y grib gyda Ray Wood, tynnwr lluniau blog Hafod Eryri. Bwyta cinio cynta, cyn anelu am Garnedd Ugain (CarneddGwenllian?) a chopa’r Wyddfa.

Criw Llwybr y PyG wedi cael dipyn mwy o her! Y ‘zig-zags’ yn rhew solet (i’w weld yn y lluniau) ac yn rhoi cyfle i ddefnyddio cramponau oedd wedi bod yn rhydu ers tro. A’r rhai heb gramponau yn chwiliota am ffordd o gwmpas y rhew.

Busnesu wedyn o gwmpas adeilad newydd y copa. Oddi yno draw at Lliwedd, a’r ddau grwp yn ymuno ar y ffordd i lawr. Mwynhau golygfa drawiadol o gysgod Lliwedd ar y cymylau, a chyrraedd Pen y Pass mewn pryd am baned sydyn cyn mynd am adre. Diwrnod da.

Adroddiad gan Gwyn Roberts

Lluniau gan Gwyn Roberts, Anet a Maldwyn ar Fflickr