HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mur China Haf 2008


Yn ddiweddar cerddodd Bethan Hughes, merch y diweddar Rodney Hughes, cyn-Gadeirydd y Clwb, ar ran o Fur Mawr China er mwyn codi arian at ganser y coluddion. Dyma ei hanes:



Fy nhaith ar Fur Mawr China

Hoffwn ddiolch i bawb am yr holl gyfraniadau hael a dderbyniais. Dwi wedi fy syfrdanu gan garedigrwydd pobl ac erbyn hyn dwi wedi casglu dros £6000.

Roedd China’n ffantastig. Ar ôl cyrraedd y Mur Mawr ar brynhawn yr ail ddiwrnod, buom yn cerdded i ddechrau ar ran wedi ei hatgyweirio. Gan fod y wal yn dringo lan a lawr gan ddilyn y mynyddoedd fel terfynau naturiol, roedd yn rhaid i ni ddringo llawer iawn o risiau. Yn ystod y daith roeddem yn dilyn rhannau a amrywiai o lefydd lle nad oedd ond ychydig iawn o dystiolaeth o’r wal i ddarnau cul iawn, rhai ohonyn nhw wedi eu hadfer. Roedd tyrrau wedi eu codi bob hyn a hyn ar hyd y wal. Ar un adran roeddem yn gallu gweld y rhain ar y gorwel am filltiroedd, ac roedd yn amlwg pam y cafodd y Mur yr enw Mawr!

Yn ein grŵp roedd 27 o gerddwyr, ein harweinwyr ac Emma o’r elusen canser y coluddion, Beating Bowel Cancer. Gan fod pawb ar y daith am resymau gwahanol a phersonol, roedd y profiad yn hynod o emosiynol ar adegau. Ar y noson olaf cyhoeddwyd bod y grŵp wedi codi £124,000 - llawer mwy nag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl. Rydw i’n mynd i barhau i gefnogi’r elusen ac yn gobeithio cymryd rhan yn ‘her y llynnoedd’ ym mis Medi. Rydw i’n falch bod Dad wedi awgrymu mod i’n cymryd rhan a gobeithio y byddai wedi bod yn falch ohonof!

Bethan Hughes