HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chamonix i Zermatt Gorffennaf 3-16


Yr Haute Route i Gerddwyr

Dim ond tri ohonom aeth ar y daith yma John Arthur, John Parry a fi. ‘Roedd un neu ddau arall wedi ystyried dod ond am amrywiol resymau wedi methu ymuno. Gan i ni adael y trefniadau tan y munud olaf ‘roedd hyn yn ffodus gan y byddai wedi bod yn anodd hefo criw mwy am nad oeddem wedi archebu llefydd i aros yn y cytiau a’r gwestai (ac eithrio'r ddwy noson gyntaf). Hedfan o Lerpwl i Genefa a chael tacsi ymlaen i Argentiere ger Chamonix. Cychwyn ein taith yng ngolwg Mt. Blanc a 12 diwrnod o gerdded ac ychydig o sgramblo o’n blaenau cyn cyrraedd ein nod ger llethrau’r Matterhorn.

Diwrnod 1
Argentiere i Trïent dros Col de Balmne 2204 m (y ffin rhwng Ffrainc a’r Swistir)
Golygfeydd gwych ar yn ôl i gyfeiriad Mt. Blanc. Cael croeso gyda’r nos gan i ni gael pryd hefo teulu’r lletywr ar gwesteion eraill.

Diwrnod 2
Trïent i Champex dros Fenetre d’Arpette 2665 m.
Codi ryw 1400 m a cherdded heibio rhewlif Trïent. Nifer o deithwyr ar y llwybr yma a'r mwyafrif yn gwneud cylchdaith Mt. Blanc (sydd yn ôl y sôn yn daith haws). Ar ôl cerdded lawr o’r uchelderau mwynhau cacen lus.

Diwrnod 3
Champex, Le Châble, Verbier ac ymlaen i gaban de Mont Fort
Cyfuno dau ddiwrnod o deithio heddiw gyda chymorth cerbyd cebl. Y bore yn cerdded i lawr ochr y dyffryn mewn ardal wledig a’r pnawn yn yr ucheldir yn cerdded i’r cwt. Diwrnod eithaf ysgafn a’r diwrnod cyntaf i ni gael glaw. ‘Roedd y cwt yma yn un cysurus iawn, bwyd da hefyd ac wedi i’r cymylau glirio ‘roedd y golygfeydd yn drawiadol.

Diwrnod 4
Caban de MontFort i Gaban de Prafleuri
Dyma un o’r diwrnodiau mwyaf anturus yn fy marn i ‘roedd angen croesi tair Côl , sef Col de la Chaux 2940 m, Col de Louive 2921 m a Col de Prafleuri 2965 m. Y tywydd yn gyfnewidiol, glaw, eira a niwl ond yn gwella at y pnawn. Bu rhaid dringo i fyny trwy’r eira i groesi Chaux ond yr oedd yn ddigon meddal i ni gicio tyllau ynddo (hyn yn ffodus gan nad oeddem yn cario cramponau). Bu rhaid croesi afon yn rhedeg allan o rewlif y Grand Desert ‘roedd y dŵr yn oer wrth gwrs ond yn ffodus nid oedd yr afon yn uchel.
Cyrraedd caban Praflueri a chael ein gyrru i gysgu i’r hen gaban gan fod yr un newydd yn llawn (llawer brafiach na chael ein gwasgu mewn ystafell hefo ryw naw arall!)

Diwrnod 5
Caban de Prafleuri i Arolla
Dau gol heddiw sef Col des Roux 2804 m a Col de Riedmatten 2919 m (neu Pas de Chevres 2855 m drwy ddefnyddio ystolion). Hanner cyntaf y diwrnod yn daith eithaf hamddenol ar hyd ochor llun Lac des Dix a’r ail hanner yn fwy anturus, ‘roedd dringo'r ystôl i groesi Pas de Cherves yn brofiad i’w gofio. Ffodus iawn i gael gwesty moethus iawn yn Arolla, ac yn rhesymol gan ein bod yn cysgu yn ei entrychion.

Diwrnod 6
Arolla i La Sage
Taith eithaf rhwydd a byr heddiw er bod ambell i raff ar rhai o’r ochrau mwyaf serth (heb fawr o’i hangen). Cyfle i hamddena wrth Lac Bleu a chael cinio mewn caffi ar y llwybr (moethusrwydd o’i gymharu ag ambell i frechdan oedd wedi ei chadw ers brecwast ar y dyddiau blaenorol). Llwyddo i fynd ar goll yn yr iseldir gan bod cymaint o lwybrau ond cyrraedd La Sage yn y diwedd ar ôl gwneud diwrnod hawdd yn anoddach.

Diwrnod 7
La Sage i Cabane De Moiry
Taith hirach heddiw pawb arall wedi cael brecwast a chychwyn o’n blaen. Yr haul yn danbaid a gwaith dringo i Col du Tsate 2868 m. O’r col yma gallem weld Cabane de Moiry yn y pellter uwchben rhan isaf rhewlif de Moiry. Y gwres llethol a’r dringo yn flinedig ac yr oeddwn yn falch o gyrraedd y caban. Yn anffodus roedd y caban yn cael ei ail wampio a doedd dim cyfleusterau i ymolchi wyneb heb sôn am gael cawod ( diolch am y “Wet Wipes” John). Ond roedd y golygfeydd dros y mynyddoedd cyfagos a’r rhewlif yn gwneud i fyny am y diffygion yma.

Diwrnod 8
Cabane De Moiry i Zinal.
Croesi un col sef de Sorebois 2847 m. Yn ogystal â’r golygfeydd r’oedd y blodau ar y llethrau yn ein gorfodi i aros yn aml i dynnu lluniau. Zinal yn le poblogaidd gan sgiwyr, a’r pentref (neu’r dref) yn eithaf mawr felly dim problem cael lle i aros yma.

Diwrnod 9
Zinal i Gruben dros Forcletta 2874 m
Y bore yn wlyb a niwlog ond gwella at y pnawn, trueni i ni golli'r golygfeydd at y Weisshorn. Gwesty da eto ac ystafell i ryw 12 ond dim ond 5 ohonom ynddi.

Diwrnod 10
Gruben i St Niklaus dros yr Augstbordpass 2894 m
Hon oedd y “pass” olaf y byddai raid i ni eu croesi (fe welwch fod y “Col” wedi newid i “Pass” nawr gan i ni adael y Swistir Ffrangeg a chyrraedd y Swistir Almaeneg ei hiaith). ‘Roedd ychydig o eira yma ond dim byd i’n rhwystro. Y llwybrau ar y ffordd i lawr yn ymddangos yn hynafol wedi ei hadeiladu yn ganol y cerrig mawr rhydd. St Niklaus yn dref ar ddyffryn Mattertal sydd yn arwain at Zermatt ‘roedd yn hawdd cael gwesty yma.

Fe ellid cyrraedd Zermatt mewn diwrnod o St. Niklaus drwy gymryd llwybr i fyny'r cwm ond llawer mwy diddorol yw cymryd deuddydd i deithio ar hyn llwybr uwch yr EUROPAWEG

Diwrnod 11
Gasssenired i’r Europa Hut
I arbed ryw 2 awr o gerdded mae modd cymryd bws (os codwch chi’n ddigon cynnar) o St Niklaus i Gassenired a dyna beth wnaethom ni..
Un arall o’r diwrnodiau anturus . Cerdded heibio i gerflun o St Bernad ar lwybr yn dirywio wrth godi. Angen cerdded dros folderi am ddarnau hir a dilyn rhannau o’r llwybr hefo rhaffau yn ganllawiau. Difyr iawn a golygfeydd trawiadol eto o’r mynyddoedd ar cwm oddi tanom, ond y Matterhorn yn dal yn guddiedig! Yr Europa Hut yn llawn ond llwyddo i gael gwely eraill yn cysgu ar y lloriau. Gyda’r nos clywed y cerrig yn powlio i lawr y llethrau lle yr oeddem i groesi yfory!

Diwrnod 12
Europa Hut i Zermatt
Llwybr digon tebyg i ddoe ac ambell dwnnel a phont (go fregus) i’w croesi. Y Matterhorn o’r diwedd yn datgelu ei hun ac yn ein denu yn ein blaenau i Zermatt

Diwedd y daith!
Wedi dringo dros 11 “Col” a chodi 12,000 m pellter o dros 180 km (Nês i 230 km efallai pe cymerid i ystyriaeth y codi a'r gostwng!). Felly, ar gyfartaledd ‘roedd angen codi ryw 1,000 m y dydd.

Diwrnod 13
Diwrnod wrth gefn oedd hwn rhag ofn y byddai problem ond gan na chafwyd rhai cawsom ei ddefnyddio i gerdded yng nghyffiniau'r Matterhorn. Gorffen gyda phryd gyda’r nos mewn un o’r gwestai moethus i ddathlu'r diweddglo i daith lwyddiannus.

Os am wneud y daith yma eich hun awgrymaf y teithlyfr “Chamonix to Zermatt” gan Kev Reynolds. Fe ddyliai dau fap 1:50,000 fod yn ddigonol gan fod y llwybrau ar y cyfan wedi eu marcio’n glir. Wedi dweud hyn eithriad oedd i ni gwblhau'r daith o fewn yr amser penodedig ac fe fyddwn i yn ychwanegu ryw 20% at yr amseroedd yn enwedig os yw’r tywydd yn anffafriol.

Mae’n anodd dethol lluniau ond gwnes ymgais. Fe welwch lun ar y diwedd o John Parry yn eithaf blinedig ond druan o John Arthur fel y gwelwch bu raid ei adael o yn Zermatt!

Adroddiad gan Gwyn Williams (Chwilog)

Lluniau gan Gwyn Williams (Chwilog) ar Fflickr