HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Nanmor i Nantgwynant 27 Rhagfyr

TAITH Y NADOLIG

25 ohonom ddaeth ynghyd sef John Arthur, Anet, Morfudd, Hefin, Awen, Aron, Huw, Alun, Rhiannon, Gareth, Meira, Elisabeth, Rhys a Cai y ci, Gwyn Roberts a Llinos, Llew, Dyfir, Sioned, Eleri, Richard, Gwilym, Mari a Gwyn a Delyth.

Cychwyn o Nanmor at ffermdy Carneddi, hen gartref y bardd Carneddog (lle tynnwyd y llun "Rwy'n edrych dros y bryniau pell" gan Geoff Charles), ymlaen wedyn heibio Clogwyn a Buarthau am ffordd Blaen Nanmor lle buom yn sgwrsio efo Richard ac Eleri, Berthlwyd. Y golygfeydd o'r Wyddfa, Lliwedd a'r Aran yn ardderchog.

Y tywydd yn oer ond yn braf – mwynahu panad a chacen yn Nghaffi Gwynant, Nantgwynant. Yna cerdded at fferm Llyndy Isaf, o gwmpas Llyn Dinas at Sygun, yna ar hyd llwybr y pysgotwyr, Aberglaslyn yn ôl i Nanmor.

Adroddiad gan Delyth Evans