HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Glasgwm a’r Ddwy Aran Gorffennaf 26


Am unwaith yr haf hwn roedd yn fore braf a’r rhagolygon yn dda wrth i ni ymgynnull wrth Bont y Pandy cyn cychwyn yn ein ceir am Ddrws y Nant. Naw ohonom, Rhodri, Morfudd, Gareth, Gaenor, Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Iolo, Dylan (Llanuwchllyn) a fi, oedd ar y daith. Cychwyn o Lety Wyn a dilyn ffordd y goedwig a’r hen lwybr o Rydymain i Gwm Cywarch. Troi i’r dde cyn cyrraedd y bwlch a chyrraedd copa Glasgwm at ginio yng ngolwg Llyn y Fign - y llyn uchaf o’i faint yn y wlad. Yn ôl i lawr at y bwlch ac at yr hen loc llwynog lle buom yn hel atgofion am Tom yr Erw a hanesion ffraeth ei filltir sgwâr. Ymlaen i’r Aran Fawddwy, dros Erw’r Ddafad Ddu a chael egwyl arall ar ben Aran Benllyn cyn cychwyn ar i lawr am Lanuwchllyn a phen draw’r daith. Mae posib defnyddio’r bws cyhoeddus i fynd o Lanuwchllyn at gychwyn y daith 12 milltir hon ond doedd yr amserlen ddim yn gyfleus ar y diwrnod.

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr