HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tarddiad y Twrch Hydref 18


Wrth edrych ar y rhaglen a gweld enwau mor anghyfarwydd (i mi o'r Gogledd) â Blaen Cothi, Lan Fawr a Bryn Brawd rhaid oedd cael mentro lawr i'r de i grwydro'r fro ddiethr hon. Diwrnod difyr a golygfeydd godigog – o Drygarn Fawr i Garn Ingli ac o'r Gadair i'r Twmpa.

Diolch i Digby a'i deulu am arwain taith mor ddiddorol ac i griw y De am y croeso cynnes.

Adroddiad gan Arwel


Lluniau gan Arwel ar Flickr