HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Alltwen a Moel y Gest 17 Rhagfyr


Daeth 17 draw i Stryd Wesla ar ddiwrnod braf o aeaf yng nghanol cyfnod o dywydd sâl - lwcus iawn.

Y cerddwyr oedd Rhian D, Rhiannon, John Arthur, Anet, Llew, John a Carys Parry, Arfon, Morfudd, Jo a'i ddau gyfaill o Antur Waunfawr, Arwyn, Twm, Gwyn Wms a John Wms.

Ar ôl cerdded draw i Dremadog ar hyd Ffordd Haearn Bach, hen reilffordd chwarel Cwm Ystradllyn, dyma fynd heibio tu blaen yr ysbyty newydd cyn troi i fyny trwy'r coed cyn belled â'r pileri cerrig. Dringo i fyny dros yr Alltwen wedyn a Dyffryn Madog i'w weld oddi tanom, cyn dod i lawr heibio Tyddyn Dicwm i Benmorfa. Oddi yma croesi am y Wern, cyn mynd o gwmpas Moel y Gest ar ochr y môr ac yna dringo'r darn serth i'w gopa.

Copa newydd sbon i dri cherddwr brwd! golygfeydd eithaf da er ei bod wedi codi'n wynt erbyn hyn. Dilyn y llwybr eithaf llithrig i lawr o'r copa yn ôl i Borthmadog a phanad a chacan yn Kerfoot's.

Diolch i bawb am y cwmni difyr.

Adroddiad gan Haf Meredydd

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr