Hafan

Y Clwb

Rhaglen
gyfredol

Teithiau
a
digwyddiadau

Ffurflen
ymaelodi

Rhagolygon
tywydd

Dolenni i
safleoedd
diddorol
eraill

Oriel y Clwb

Offer i'w
logi

Mynyddiadur

Cysylltu â ni

Erthyglau
Summit

Dogfennau'r Cyngor Mynydda Prydeinig

  Y CRIMPIAU Chwefror 16
{Isbennawd}




Ar fore Sadwrn eithriadol o braf cychwynnodd 9 ohonom, - Llew a Dyfir Gwent, Clive James a Rhiannon Jones, Anet, Arwyn Criccieth a Gwyn Williams Chwilog ynghyd a'r cyd-arweinyddion Gwyn Williams Llanrwst a John Arthur, o faes parcio Capel Curig. Wedi cyfnod byr yn cerdded drwy'r coed dechreuom ddringo tuag at y Crympiau. Golygfeydd bythgofiadwy i'w gweld i bob cyfeiriad ar fore mor glir. Ymlwybro ymlaen i gopa Creigiau Gleision lle y cawsom orffwys am ginio. Wedi gwledda yn yr heulwen, gweithio ein ffordd i lawr at Argau Llyn Cowlyd cyn dychwelyd yn ôl ar hyd y llwybr sydd ar ochr y llyn ac yna i Gapel Curig. Diolch i Gwyn (Llanrwst) am ei gydweithrediad yn arwain y daith.

Adroddiad gan John Arthur

Lluniau gan Gwyn Williams (Chwilog)

 


Noddir
gan:



Llety ar
y wê gan:

Diweddarwyd gan y gwefeistr: 5/18/08 9:34