HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn Nantlle Medi 17


Daeth mis Medi â thywydd braf o’r diwedd a chychwynnodd pymtheg ohonom o Dalysarn ar fore heulog cynnes. Dilyn llwybrau’r llechi roedd y daith yn bennaf, i fyny drwy’r chwarelydd uwchben Tanrallt at Faen y Gaseg ac ymlaen at Nebo cyn troi i lawr am Lanllyfni a heibio Caer Engan. 

Roedd golygfeydd rhan nesaf y daith yn rhai go annisgwyl yn Nyffryn Nantlle – gwinllanoedd a pherllannau. 

Cawsom groeso gan Iola yn Pant Du a chyfle i weld arfbais teulu Bodfel uwchben y lle tân yn yr hen dŷ (a John Arthur yn ein sicrhau nad oedd unrhyw gysylltiad rhyngddo a’i achau o!) Bydd gwinoedd Pant Du yn barod yn y flwyddyn 2010, felly dyna rywbeth i edrych ymlaen ato. Yn ein blaenau wedyn hyd lwybrau’r Cilgwyn cyn dychwelyd i Dalysarn.

Adroddiad gan Anet a Haf

Lluniau gan Anet a Haf ar Fflickr

Capsiynau

  1. Defnydd gwych o lechi lleol - crawiau
  2. Brasgamu ar ddechrau'r daith ...
  3. Ar gyrion Talysarn
  4. Arfbais Bodfel yn hen ffermdy Pant Du - cyndadau John Arthur?
  5. Yr hen risiau cerrig yn troelli y tu ôl i'r lle tân yn ffermdy Pant Du
  6. Pant Du, sy'n dyddio o'r 1600au
  7. Aeron yr hydref
  8. Heulwen mis Medi
  9. Crib Nantlle
  10. Pwy ydy hwn sgwni? Cliw yn y llun!