HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dduallt, Clogwyn y Geifr … Rhyd-y-sarn a Cheunant Cynfal Mai 14


Cychwyn hefo 22 a gorffen hefo 21 ond dim oherwydd bod yr arweinydd yn cael trafferth i gyfrif, ‘roedd Haf yn gorfod ein gadael ar hanner y daith.

Criw go fawr i daith dydd Mercher a hynny o ystyried bod rhai o’r selogion ar eu gwyliau.
Braf oedd cael cwmni saith o Antur Waunfawr ac er bod cyfle iddynt ymadael a ni hanner ffordd penderfynodd pawb wneud y daith i gyd.

Cychwyn y daith o Ryd-y-sarn ble y llwyddwyd i wasgu’r ceir i’r arhosfa barcio. Cerdded am dipyn ar hyd y ffordd yn dilyn afon Dwyryd wedyn troi i fyny’r llwybr i gyfeiriad gorsaf Dduall (rheilffordd Ffestiniog). Yr haul yn tywynu a’r golygfeydd yn eithaf trawiadol yma, felly lle da i gael egwyl a phaned cyn cychwyn i lawr trwy’r goedwig o dan Glogwyn y Geifr. Y llwybr yn mynd â ni dros bont droed ar yr afon Goedol lle mae ychydig o raeadrau, y rhain yn agos i’n man cychwyn.

Ail ran y daith yn mynd â ni o Ryd y Sarn i Lan Ffestiniog ar hyd llwybr drwy garpedi glas lliwgar o fwtsias y gog, daeth ambell i gamera allan o’r sachau yma. O Lan Ffestiniog cymryd y llwybr gyferbyn â’r Eglwys oedd yn ein harwain i geunant Cynfal. Cael cinio yn y cysgog ac edmygu'r golygfeydd o’r ardal hanesyddol yma. Wedyn i lawr at Raeadr Cynfal a heibio i Bulpud Huw Llwyd ac yna croesi’r afon Cynfal. Yma aeth aelodau’r clwb i fyny’r afon at y Bont Newydd cyn troi’n ôl a’m dilyn i ac aelodau’r Antur i lawr y llwybr ar ochor ddeheuol afon Cynfal. ‘Roedd y llwybr yma yn ein harwain yn ôl at waelod yr Allt Goch. Trueni nad oedd fan hufen iâ yno!

Adroddiad gan Gwyn Williams

Lluniau gan Gwyn Williams a Iolo ap Gwynn ar Fflickr