HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y Ddwy Aran 13 Rhagfyr


Deg oedd ar y daith - Gwyn Llanrwst, John Arthur, Arwel, Clive, Iolyn, Eirlys, Gwyn Chwilog, Owen a Tristan (Cerrig y Drudion), a'r arweinydd wrth gwrs. Daeth y bws i Lanuwchllyn yn brydlon am 10.47. i fynd a ni at Ddrws y Nant ar ffordd Dolgellau.

Dilyn y ffordd fach at Esgair Gawr ac yna i fyny i gyfeiriad yr Aran Fawddwy. Yn fuan roeddem yn y niwl ac yn y niwl y buom ni am weddill y diwrnod. Roedd y peiriant GPS yn fodd i gael hyd i'r copa yn ddidrafferth.

Erbyn hynny roeddem mewn trwch o eira a'r gwynt yn oer. Cinio ar y Fawddwy cyn troi i gyfeiriad Erw'r Ddafad Ddu a'r Benllyn.

I lawr yn ol am Llanuwchllyn wedyn gan fwynhau golygfeydd y gwyll a chyrraedd maes parcio Pont y Pandy wedi iddi dywyllu.

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr