HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Lem Medi 13


Arwel Roberts oedd i fod i arwain y daith gydag Alwyn Williams o Langefni yn cyd-arwain, ond cafodd yr hen Arwel ddamwain wrth feicio mynydd yn Ardal y Llynnoedd a thorri ei fraich! Camodd Maldwyn Roberts i'r adwy i gynorthwyo Alwyn, sy'n gwneud ei gwrs Arweinydd Mynydd iddo gael profiad arwain fel rhan o'i flwyddyn cadw llyfr log.

Sadwrn sych (o'r diwedd!) a chriw o wyth ohonom – Nia Williams, Nia Hughes, Liz Fletcher, Myfyr, Gareth, Ken, Alwyn a minnau – yn cychwyn o'r maes parcio yng nghanol Pesda a dilyn llwybrau a ffyrdd i gyfeiriad Gerlan a Chwm Llafar. Ken yn ymuno â ni cyn cyrraedd pen y lon wrth y gwaith dwr. Cymylau ar y topiau yn clirio wrth i ni gerdded ar hyd y cwm tuag at Llech Ddu. Bugeiliaid Gerlan wrthi'n clirio defaid ochr Llywelyn o'r Cwm.

Y ddwy Nia a Lis heb wneud y grib o'r blaen – yn wir dyma sgrambl gyntaf Lis – a Gareth wedi ei thrio unwaith ond yn amau iddo fethu'r llwybr iawn. Un parti o dri o'n blaenau. Ail baned wrth waelod y clogwyn cyn ymbalfalu i fyny'r sgri i mewn i Gwm Glas Bach ac ar letraws yn ôl uwchben clogwyni'r Llech Ddu a dechrau'r sgramblo. Dyn bach ar ei liwt ei hun yn ein pasio cyn dechrau ar y sgramblo difyr.

Y cymylau'n chwyrlio o'n cwmpas a'r creigiau'n dal yn seimllyd wedi'r holl law. Alwyn yn ofalus iawn o bawb a Lis yn mwynhau ei sgrambl cyntaf. Er fod y grib yn un ddifyr, mae'n fer a buan iawn y daethom i'r lethr sgri sy'n arwain i gopa Carnedd Dafydd. Parti arall o dri oddi tanom. Paned sydyn ar y copa cyn dilyn y llwybr uwchben yr Ysgolion Duon tuag at Fwlch Cyfrwy'r Drum. Haul braf a chymylau'r chwyrlio i fyny o Gwm Llafar – fe welsom amryw o Frocken spectres ar y darn yma o'r daith. Gareth yn egluro be yn union oedd yn creu y fath gymylau!

Ymlaen i gyfeiriad Carnedd Dafydd – yn y niwl erbyn hyn – ac yn hytrach na dringo i'w gopa yn anelu ar letraws drwy'r niwl i gyfeiriad yr Elen. Canfod y llwybr uwchben y bwlch ac ymlaen drwy'r niwl i gopa'r Elen. Cinio arall a'r golygfeydd yn ymddangos weithiau drwy'r niwl. Dau redwr yn carlamu heibio wrthi'n gwneud y 14 copa ac wedi ei gwneud hi o'r Wyddfa mewn chydig dros bum awr! I lawr y grib ogleddol o'r copa a'r tywydd yn clirio.

Bugeiliaid Cwm Llafar yn manteisio ar y tywydd da ac yn dychwelyd rhai o'u defaid trosodd o Gwm Caseg i Gwm Llafar. I lawr a ni drwy'r gors i chwilio am ffordd i groesi'r afon Llafar yn ngheg y cwm. Y criw oedd tu ôl inni ar y grib yn rhoi help llaw (a ffyn) i ni groesi'n ddiogel.

Diwrnod da, pawb wedi mwynhau ac Alwyn wedi cael 'quality mountain day' yn ei lyfr log.

Adroddiad gan Maldwyn

Lluniau gan Myfyr ar Fflickr