|
Cychwynnodd y daith o Gae’r Gors ar fore Mercher gwanwynol. Arweiniodd Dewi Tomos ni ar hyd Y Lôn Wen, tros gopa Moel Smytho ac o gwmpas Moel Tryfan gan rannu ei stôr o wybodaeth am hanes yr ardal a chysylltiadau Kate Roberts yn arbennig. Roedd y baned a’r gacen ar ddiwedd y daith yn dderbyniol iawn. Diolch yn fawr i Dewi a chymwynaswyr Cae’r Gors.
Llunau ac adroddiad
gan Anet
|