HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ymarfer Techneg Eira a Rhew?! - Tryfan & Glyder Fach Ionawr 12


Daeth 12 o aelodau at ei gilydd yn brydlon yn nyffryn Ogwen. Er bod y copaon yn edrych yn wyn a rhewllyd, roedd yn amlwg nad oedd llawer o drwch o eira o gwmpas, ac roedd rhagolygon am law yn hwyrach.

Penderfynodd dau nad oeddynt am fentro i'r topiau, gan drefnu diwrnod eu hunain. Aeth y deg arall ohonom i fyny Crib Ogleddol Tryfan ac ymlaen i fyny Bristly Ridge i gopa'r Glyder. Er fod angen gofal yn croesi'r bwlch ar y grib, ddaeth y cramponau ddim allan o'r sach trwy'r dydd. Rhyw haen denau o farrug gawsom ni gan fwyaf, a dim ond ambell lygedyn bach o rew.

Wedi sawl cinio a stop am sgwrs, roedd oriau dydd yn prinhau felly dyma benderfynu mynd i lawr y Gribin ac yn ôl at y ceir. Canmol ein hunain am gyrraedd nôl yn union fel yr oedd y glaw oer yn cyrraedd!

(Ychydig a wyddom bryd hynny y byddai rhai ohonom allan eto y noson honno yn rhaffu dau dwit o Wrecsam i lawr oddi ar Grib Goch, mewn gwynt a glaw di-baid, tan 2am fore Sul - ond stori arall ydi honna!)

Adroddiad Gwyn Roberts & Myfyr Tomos

Lluniau gan Arwel a Myfyr ar Fflickr