HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Nepal Hydref 2007


Roedd Nepal yn ddirgelwch i mi – i be' yn y byd roedd ffrindiau am fynd yn ôl yna a hwythau'n cwyno gymaint am eu hiechyd tra ar eu "gwyliau" ym mhen draw'r byd?

Doedd dim byd amdani ond mynd yna fy hun i ddarganfod yr ateb ! Felly dyma gyrraedd Kathmandu un prynhawn Llun ym mis Hydref yng nghwmni Alun Voyle, Alan Machynlleth, Rhodri, Dilwyn, Richard, Bruce, Morfudd a Sioned – a Sioned mewn hwyliau drwg iawn am i Emirates golli ei sach fawr yn Delhi!

Dyma ddechrau deall; mae pob dim yn wahanol. Pobl a phobl, lliw, budreddi ac anhrefn. Prysurdeb di-ddiwedd, siopau bach iawn – bler ar y tu allan ond twt a threfnus ar y tu mewn yn gwerthu pob dim o gyfrifiaduron i bennau geifr. A'r drafnidiaeth! Dim rheolau a phawb yn canu corn. Y daith at westy'r Mansalu yn antur a Sioned wedi mynd efo Kamal, ein trefnydd, i swyddfa Emirates i ddweud y drefn!

Bore Mercher dyma gychwyn am ddyffryn y Rolwaling wedi cyfarfod yn gyntaf efo'r porthorion a'r cogyddion a fyddai'n gofalu amdanom am y dair wythnos nesaf – y rhan fwyaf yn berthnasau rhywsut i Kamal. Y daith yn y bws mini i Dolakha yn brofiad lliwgar, pobl a phlant, cyfoeth a thlodi enbyd yn gymysg ar hyd y ffordd gul, droellog i gyfeiriad Tibet. I fyny ac i lawr a phob gyrrwr am basio, corneli neu beidio. Heibio chwarel powdwr talc yn y gwyll ac i lawr o'r diwedd at oleuadau Dolakha.

Roedd y bore canlynol yn heulog a chynnes; dyma'r tywydd roeddem i'w fwynhau ar hyd y daith. Cyn gadael Dolakha aethom heibio teml yr Hindwiaid, roedd yn ŵyl grefyddol o bwys a'r pentrefwyr yn torri pennau geifr ar y grisiau. Roedd lle amlwg crefydd yr Hindw a'r Bwdydd ym mywyd Nepal yn elfen liwgar ym mhatrwm ein hymweliad. Roedd y cerdded yn hawdd am y tri diwrnod cyntaf; dilyn afon wyllt y Tama Koshi heibio ffermydd a phentrefi cyntefig cyn dringo 600 m i bentref Simigaon (1990 m). Ni oedd yr unig ymwelwyr ar y llwybr ac nid yn unig roeddem mewn gwlad ddieithr ond teimlwn ein bod hefyd yn teithio nôl mewn amser; dyma'r ffordd o fyw yng Nghymru dwy ganrif yn ôl.

O Simigaon a'i gompa (teml Bwdiaidd) groesawgar i mewn a ni i'r goedwig a'i gelenod; yr un mynydd i'w weld yn fan 'ma ond erbyn diwedd y prynhawn roeddem wedi cyrraedd pentref bach Douan ar lan afon Rolwaling; Rolwaling a fyddai yn ein harwain at y rhewlif a bwlch y Tesi Lapche. Erbyn diwedd y diwrnod canlynol roeddem wedi gadael y coed a chyrraedd pentref Beding (3690 m). Caeau bach iawn, tebyg i Ynysoedd Aran, a'r lle dan drwch o eira drwy gydol y gaeaf, a fyddai'n cyrraedd o fewn y mis. Erbyn hynny byddai'r pentrefwyr a'u hanifeiliaid wedi ei throi hi am dir is gan adael y lama lleol yn unig yn ei fynachlog. Wedi diwrnod yn Beding i arfer efo'r uchder ymlaen i Na (4180 m). Oer iawn erbyn hyn wedi i'r haul fachlud a minnau'n werthfawrogol iawn o'm côt blu. Roeddem yn glud yn ein sachau cysgu erbyn 8.00. ac er mawr syndod roeddwn yn llwyddo i gysgu!

O'r diwedd roeddem yn barod i roi cynnig ar fynydd Ramdung (5930 m) ond yn gyntaf roedd yn rhaid gadael y cwm a dringo at gyrion yr eira i'r gwersyll sylfaen (4900 m). Bu rhai yn wael efo'r bol a chur pen eisioes ond erbyn y bore roedd Alun wedi ei daro ac yn analluog i ddod efo ni i'r gwersyll uchel. Gan adael Alun efo rhai o'r cogyddion ymlaen a ni am yr eira a'r mynydd. Cerdded anodd ar draws sgri ac yna i fyny eira serth at ein pebyll. Erbyn galwad 3.00. y bore canlynol roedd Sioned, a Morfudd a oedd efo'r anwyd ers gadael Cymru, wedi penderfynu aros ar ôl. Chwech ohonom felly yn cychwyn yng ngolau'r lleuad ar raffau dan arweiniad Ram a Mingma. Dringo eira trwchus serth iawn ar unwaith, sefyll yn aml am wynt a chyfle i ryfeddu at y golygfeydd, ond o, mi roedd Mingma'n symud yn sydyn! Cromen Ramdung yn dod i'r golwg yng ngolau'r wawr, jumar ar raff wedi ei gosod gan Ram a dyma ni ar gefnen gul a'r aer yn denau. Erbyn hyn roedd eira'r wyneb wedi rhewi ac yn torri dan ein traed; cyrraedd 5575 m, yr anadlu'n llafurus a minnau'n gwybod na fedrwn gyrraedd y copa. Aros i drafod. Mingma yn cychwyn yn ôl efo fi, a Ram yn bwrw mlaen efo'r lleill ond o fewn chwarter awr dyma weld eu bod nhw hefyd wedi troi nôl (o achos y gwynt). I lawr efo'n gilydd, Morfudd, a Sioned yn ei dillad benthyg, yn dod i'n cyfarfod ac un o griw'r gegin yn cyrraedd atom efo fflasg o ddiod oren poeth – am braf! Yn ôl heibio'r gwersyll uchel ac i lawr at Alun i'r gwersyll sylfaen – fues i erioed mor falch o orwedd ar wastad fy nghefn!

Wedi gorffwys yn Na ymlaen eto at darddle'r Rolwaling, sef llyn rhewlifol Tsho Rolpa. Gwersyll eto cyn mentro croesi'r marian at rewlif Trakarding. Hwn oedd cerdded perycla'r daith; tonnau anferth o rew wedi eu gorchuddio efo graean a cherrig o bob maint, y cyfan yn symud dan ein traed a thywod yn chwythu i'n wynebau yn y gwynt oer. Gwelsom fwltur Lammergeier … beth oedd hwn yn disgwyl ei gael i'w fwyta yn y fath le anial? Y diwrnod nesa' oedd uchafbwynt y daith (yn llythrennol) codi 900 m i Fwlch y Tesi Lapche (5710 m) ac eto roedd anadlu'n anodd efo 50% yr ocsigen sydd adre. Gwersylla is law'r bwlch ac roedd yn amlwg nad oeddwn yn mynd i ddringo Parchamo (6273 m) ond dyna wnaeth Rhodri, Richard, Bruce, Dilwyn, Alan, Ram a Mingma'r diwrnod wedyn cyn ein dilyn ni'n pedwar i lawr i'r dyffryn a phentre Thyongbo lle cafodd Sioned ei chacen penblwydd, a dringwyr Parchamo gacen dathlu o gegin y gwersyll. Noson i'w chofio yn y "tŷ te" yn rhannu'r cacennau efo'r porthorion a phlant y teulu, yng ngwres tan tail iac.

I lawr oedd ein hanes wedyn heibio Thame a Thamo i Namche Bazar. Ein pebyll yng nghanol y dre uwchlaw marchnad y Tibetiaid. Namche Bazar bywiog, budr a chyfle i ffonio adre. Roedd un ddringfa eto, sef taith "hawdd" at yr Everest Hotel i gael cip ar fynydd ucha'r byd rhyw ugain milltir i'r gogledd. Roedd diwrnod ola'r daith mor wahanol i'r cychwyn: y llwybr yn llawn ymwelwyr a phorthorion yn cludo cyflenwadau cwrw a dŵr potel i Namche, gwestai newydd a chyflenwad trydan ond y llwybr yn dilyn afon eto ac yn croesi pontydd crog di-ri ar ei ffordd i Lukla.

Lukla: parti dathlu diwedd y daith efo'r porthorion, y tywyswyr a criw'r gegin mewn tŷ te a oedd yn eiddo i berthynas arall i Kamal a oedd erbyn hyn wedi ymuno a ni. Y prynhawn canlynol tristwch wrth adael ffrindiau newydd a derbyn sgarffiau melyn a dymuniadau da cyn dringo ar fwrdd yr awyren fach a fyddai yn ein cludo lawr i Kathmandu.

Mae 'na gymaint yn fwy i'w ddweud: y mwnciod, drwm Tec, y gloywod byw, y tirlithriadau, rhu yr afon, Tecwyn y Teclyn, y rhaeadrau, y barcutiaid du, y ci, disgleirdeb y ser, y meini gweddi, gwisgoedd y merched lleol, temlau Kathmandu ond yn anad dim y bobl. Y porthorion a'u llwythi anferth yn destun pryder, criw'r gegin a'u campau coginio, y tywyswyr cydwybodol, pawb yn gyfeillgar a llawen. Y plant bach chwilfrydig, yr athro a'i bryderon gwleidyddol, y gweinydd yn Kathmandu a oedd am ddysgu Cymraeg, y cardotyn yn Thamel, y Maoiaid, teulu Kamal. A mwy. Yn aml byddem yn ystyried dyfodol Nepal; mae newid er gwell yn y llywodraeth a'r brenin wedi colli ei rym. Byddai buddsoddiad bach mewn addysg iechyd a llythrennedd yn gwella bywyd y mwyafrif ond sut yn y byd mae cael trefn ar Kathmandu?

A'r dirgelwch? Wel, fues i ddim yn sal! A'r atyniad? Y bobl yn sicr, byddai'n dda iawn cyfarfod a'n ffrindiau eto, dod i adnabod eu gwlad yn well a gweld gwelliant yn llywodraeth y wlad. Roedd y Rolwaling yn arbennig iawn, iawn am fod cyn lleied o ymwelwyr eraill ar ein llwybr a byddai'n dda iawn cael hyd i daith ddiarffordd eto. Y mynyddoedd mawr wrth gwrs, ond mae un peth a brofais yn bendant – dydy fy ysgyfaint ddim yn gweithio gystal uwch law 5000 m!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew a Morfudd ar Fflickr

  1. Nid lladron penffordd ond llygredd Kathmandu!
  2. Y deml Hindwaidd yn Dolakha.
  3. Drwy'r caeau reis ar lan y Tama Koshi.
  4. Morfudd a Sioned yn aros am lymed.
  5. Seibiant i'r porthorion.
  6. Plant chwilfrydig Suri Dobhan.
  7. Y gompa yn Simigaon.
  8. Gwersyll Na (4180 m).
  9. Noson oer neithiwr Alun!
  10. Yng ngwersyll sylfaen Ramdung.
  11. Ffarwelio a'r ffotograffydd druan.
  12. Ram y prif dywysydd.
  13. Gwersyll uchel Ramdung.
  14. Y bore bach ar Ramdung.
  15. Mingma'r ail dywysydd.
  16. Ramdung (5930 m) wedi i'r criw droi'n nôl.
  17. Marian rhewlif Trakarding.
  18. Ar y rhewlif.
  19. Bwlch Tesi Lapche (5 755m).
  20. Hogia' ni a'r Almaenwyr yn dod i lawr Parchamo (6273 m)
  21. Rhewlif Thyanbo.
  22. I lawr i gyfeiriad Ngole
  23. Namche Bazar.
  24. Everest / Sagarmatha yn y pellter ac Aba Dablan ar y dde.
  25. Cyfarfod a'r Maoiaid.
  26. Lukla o'r diwedd.
  27. Stryd fawr Lukla - y cymylau isel yn bryder.
  28. Glaw cynta'r daith a'r criw yn barod i droi am adre.
  29. Gobeithio cawn gyfarfod eto!
  30. Awyren "Agri Air" yn cyrraedd o'r diwedd.