![]() |
||||||
|
|
Braemar a Mynyddoedd y Cairngorm, Chwefror 2007 | |||||
Diwrnod
1 ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() Diwrnod 2 ![]() ![]() Diwrnod 3 ![]() ![]()
Diwrnod 4
![]()
|
||||||
|
Roedd y daith i'r Alban eleni yn hollol wahanol gan i mi hedfan efo Dylan, Alwen a Ceri o Lerpwl i Aberdeen gan logi car yno i'n cludo ymlaen i Braemar. Profiad gwahanol ond dewis amheus o ran arian a'r amgylchedd. Roedd
Alan wedi trefnu lle i 23 ohonom mewn bythynod pren cysurus a chyfleus
ar dir y Braemar Lodge ar gwr y pentref. O'r diwrnod cyntaf roeddem
wedi rhannu'n finteioedd bach ar gyfer ein teithiau a'r drefn yn newid
o ddydd i ddydd. Ymunodd Dr Gwen a chriw'r awyren dros y pedwar diwrnod
buom yn cerdded a chawsom gwmni Cen Penmachno, Meic, Rheinallt a Sam hefyd
ar rai o'n teithiau; cawsom ambell gip ar rai o'r lleill yn diflannu o'n
blaenau o dro i dro! Roedd ehangder y mynyddoedd eto'n drawiadol, yr unigedd
ac olion hen bentrefi weithiau'n drist a'r bywyd gwyllt yn hynod. Synnais
o ddarllen i'r wraig frodorol olaf i siarad Gaeleg yn Braemar farw dros
ganrif yn ol; er gwaetha pawb a phopeth mae gennym le i ddiolch ! Diolch
yn fawr iawn i Alan am drefnu unwaith eto. Adroddiad
a lluniau gan Llew ap Gwent Lluniau
|
||||||
|
Noddir gan: Llety ar y wê gan: |
||||||
| Diweddarwyd gan y gwefeistr: | 11/6/07 8:47 | |||||