HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cnicht o Flaen Nanmor Ionawr 28


Dydd Sul 28 Ionawr, a’r eira wedi dadmer, ymgasglodd 18 ohonom yn hen chwarel Blaen Nanmor ar gyfer taith i gopa’r Cnicht. Braf iawn oedd gweld fod hanner y fintai yn aelodau cymharol newydd – wedi bod ar un neu ddwy daith o’r blaen neu wedi ail afael ynddi ar ôl ysbaid o rai blynyddoedd. Efallai fod y disgrifiad o’r daith fel un “fer” neu’r amser cychwyn gwaraidd (10 o’r gloch) wedi cyfrannu at hyn!

Dyma gychwyn i fyny heibio Gelli Iago, gan oedi i amlinellu’r daith ar y map mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei osod yno. Yna codi’n raddol a chyson ar hyd llwybr hawdd hyd at Fwlch y Batel. Troi i’r dwyrain wedyn a dilyn godre’r gefnen hyd at lecyn addas i gael paned. Yna gyrru ymlaen am y grib ac ymuno hefo llwybr Croesor ychydig dan gopa’r Cnicht. Erbyn cyrraedd y copa ‘roedd y cymylau wedi cau amdanom a’r gwynt wedi codi ac yn brathu, felly doedd dim amdani ond chwilio am rhywfaint o gysgod ar y ffordd i lawr i gael cinio sydyn.

Ymlaen wedyn at Lyn yr Adar (trwy’r gors – roedd wedi glawio digon yn yr wythnosau cynt!) cyn troi yn ôl i’r gorllewin a dilyn llwybr clir rhwng y creigiau, i lawr heibio Llyn Llagi ac yn ôl i’r ffordd ger Llwynyrhwch. Yn unol â’r addewid ‘roeddem yn ôl yn y ceir am 2.30, hefo ambell i droed wlyb ond yn llawer elwach o gael cwmni difyr ar y daith.

Ac ar gyfer y cofnod, y cwmni difyr hynny oedd: Llew, Gwyn, Bert, Elisabeth, Iona, Morfudd, Awen, Aaron, Sian, Elen, Catrin, Martin, Jeremy, Delyth, Bryn, Eirlys, Ruth a Dilys.

Aroddiad Dilys Phillips