| Gwen
A, Alun R, Cliff Mathews, Arfon Jones, Llew a Dyfir, John A a John W
Bore
gwlyb, niwlog cychwyn heibio cofeb RWP at lwybr i fyny i
ochrau chwarel Cilgwyn a thros y mynydd (Cilgwyn) tic arall! ond
dim golygfa.
Cinio gwlyb yng nghanol y Fron gyda chwmniaeth "equus blanco".
Ymlaen yn y glaw i gyfeiriad fferm Ysgubor ac wedyn lawr ac allan yn Nantlle,
heibio i lynoedd chwareli a'r anenwog Dorothea a Phlas Talysarn. Dal i
fwrw hyd at y ceir!
Diolch i Alun R am gydarwain.
Adroddiad
a lluniau gan John Williams
|
|