|
Daeth
10 ohonom i faes parcio Rhyd Ddu (tâl parcio £3!) ar fore
sych a chan fod argoelion o dywydd gwlyb at ganol y prynhawn (a'r gêm
rygbi ar y bocs) , dim ond darn canol Crib Nantlle oedd y bwriad.
Dilyn
y llwybr arferol at waelod Y Garn, yna troi i'r chwith (!) ar lwybr Bwlch
y Ddwy Elor. Ymlaen i Gwm Du, y cwm coediog sydd i'r de o Fynydd Drws
y Coed a Thrum y Ddysgl. Cario'n syth ymlaen lle mae'r llwybr yn dringo
at Fwlch y Ddwy Elor a dilyn ffordd y goedwig rownd cefn y cwm, gan ddringo'n
raddol uwchben y coed
cerddwyr gannoedd o droedfeddi uwchben ar
y grib
at ddiwedd y llwybr a chael ein cinio cyntaf yng nghysgod
hen waliau o dan gopa Mynydd Drws y Coed.
Dringo'n serth ar wair i gopa Mynydd Drws y Coed a dilyn y grib i gopa
gwastad Trum y Ddysgl.
Ymlaen
ar hyd y grib at Dal y Mignedd a chael ein hail ginio yng nghysgod y wal
wrth y twr. Tywydd yn oeri, felly mlaen ac i lawr y grib at Fwlch Drosbern
(hen fwlch y porthmyn rhwng Nantlle a Chwm
Pennant) ac i lawr yn serth a rowndio i mewn i Gwm Dwyfor.
Dilyn
yr inclên i lawr ac ar hyd yr hen dramffordd
y glaw yn cyrraedd
yn gynt na'r disgwyl
felly torri cornel i gyfeiriad chwarel Cwm
Trwsgl i arbed amser a dilyn inclên arall i fyny trwy'r niwl at
Fwlch y Ddwy Elor (neu'r Ddeilior?).
Lawr
trwy'r coed gan ymuno â llwybr y bore
y glaw yn ysgafnhau
gan gyrraedd yn ôl yn y maes parcio mewn da bryd i bawb gyrraedd
adref i weld y gêm.
Y
criw oedd Anet, Gwyn (Chwilog), Tegwen, Alwen a Ceri, Gwyn (Roberts),
Llew Gwent, Ken Penmachno, Rhodri Owen a minnau.
Adroddiad
a lluniau gan Maldwyn Roberts
|