HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Coed y Brenin 16 Mai


Er bod y cyfeirnod ar y rhaglen yn nodi mai yng Nghwm Ystradllyn yr oeddem i ymgasglu i gychwyn ein taith yng Nghoed y Brenin, ar ôl chwilio am sbel fe ddaethom o hyd i'n gilydd.

Saith ohonom a fentrodd allan i grwydro.

Nid oes prinder o lwybrau swyddogol yn yr ardal yma ond ni ddilynwyd yr un o'r rhain er i ni groesi ambell un. Er mwyn cael y golygfeydd ysbeidiol (oherwydd y tywydd cymylog) fe ddaethom allan o'r coed ar y llethrau ger Hafod Fraith – lle delfrydol i gael panad gyda golygfeydd draw at y Rhinogydd ac Abergeirw. Wedyn cerdded i gyfeiriad Bedd y Coedwr ac ar ôl cyrraedd afon Mawddach ei dilyn heibio i waith aur Gwynfynydd nes cyrraedd Rhaeadrau Mawddach a Cain oedd yn eithaf trawiadol (un fantais o gerdded y ffordd yma yn y glaw). I orffen y daith codi o'r cwm i gael golygfeydd o'r gorllewin ac yna disgyn i lawr gallt Cefn-deuddwr yn ôl i' r man cychwyn. Pawb wedi mwynhau diwrnod difyr, neu felly yr oeddant yn dweud wrth yr arweinydd beth bynnag.

I'r rhai ohonoch sy'n hoffi crwydro ar eich beicia mynydd mae yma lwybra amrywiol iawn ar eich cyfer a chaffi da i ymlacio ynddo ar gychwyn neu ddiwedd y daith.

Adroddiad Gwyn Williams

Lluniau gan Anet ar Fflickr