|
Pwy
oedd ar y daith? Joooohn, Ponjari, Netws, Rhian, Gwyn, Arwyn, Dei a Cheryl
ac Oliver (ffrind iddyn nhw), Gwen A, Gwen R, Rhiannon HJ, Sian D, Eirlys,
Marjery (aelod o Glwb Dringo sy'n byw'n lleol) a finna. Fuon ni'n goblyn
o lwcus oherwydd roedd yn braf ac yn heulog efo awyr las, yn ogystal a
bod yn gynnes, efo golygfeydd clir iawn o'r Rhinogydd o gwmpas.
Aethon
ni lawr i Landanwg i ddechrau i weld yr eglwys, wedyn ar hyd y clawdd
llanw am Llambad, i fyny heibio'r bwthyn lle ganwyd fy nhaid, Tanywenallt,
yna dilyn llwybrau rhwng ffermydd, galw heibio cromlech Gwern Einion,
ac yn ôl drwy chwarel Llanfair i'r pentref. Mi o'n i di meddwl mynd
fymryn pellach ond efo'r criw oedd yna mi weithiodd yn gret jest wnes
i hi ddoe. Mae'n handi nabod y lle'n go dda, oherwydd mae yna ddigon o
ddewis wedyn ynglyn a lle i gwtogi'r daith.
Wedyn,
i goroni'r diwrnod, ddaru Jooohn fy ngadael yn garej Toyota lle'r
oedd fy nghar angen gwasanaeth a manion, a ges i fil o £196! Diwrnod
difyr!
Adroddiad
Haf Meredydd (yr Arweinydd)
Lluniau
gan Anet
|
|