HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O amgylch Llyn Padarn 10 Hydref


Lleoliad: Llanberis
Arweinydd: Alun Roberts
Nifer ar y daith: 10. Pedwar John - John Arthur, dau John Parry a John Williams, dwy Wen, Aaron a Richards, un Gwyn (Chwilog), Haf, Cliff am y tro cyntaf ar Ddydd Mercher, ac Alun.
Tywydd: Bendigedig, diwrnod arbennig o Hydref.

Cychwyn o Ganolfan Mynydd Gwefru am 10 a.m. i fynd o gwmpas Llyn Padarn. Mynd heibio Ysbyty`r Chwarel ac yna galw yng Nghae Mabon sef y Ganolfan Adnewyddol. Cafwyd caniatad ymlaen llaw gan y perchennog, Eric Maddern. Treulio orig ddifyr yno. Yna ymlaen i Fachwen cyn disgyn i Bont Penllyn. Yna am y Caban yn Brynrefail i gael cinio ond cafwyd profiad gwahanol o gael eistedd ar ddwy sofa oedd wedi cael eu gadael wrth ymyl y ffordd. Cyrraedd y Caban. Pawb wedi plesio hefo`r bwyd. Cerdded yn ol am y llyn- dim son am y ddwy sofa!
Cerdded am Lanberis ar y trac beics . Galw yn ffatri DMM i weld a oedd offer dringo ar werth i John Parry, Port. Siom - mae`r siop wedi cau yn y ffatri.
Yna ymlaen drwy Coed Doctor i ffordd Clegir. Yna drosodd i ffordd Bwlch y Groes ac yna dringo i Ty`n y Mynydd a chroesi wedyn i Ty`n yr aelgerth. Croesi Cwm Brwynog i lein YR Wyddfa. Yna anelu at ben uchaf y rhaedr a chael edrych lawr honno cyn ail ymuno a`r llwybr a chyraedd yn ol i Lanberis am 4:30 p.m.

Adroddiad Alun Roberts

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr

  1. John Parry (yr un o Port) yn astudio campwaith un o gytiau bach Cae Mabon
  2. John Wms yn 'ystyried' baddon awyr agored Cae Mabon!
  3. Y ty to gwellt crwn
  4. Y criw o flaen y ty to gwellt crwn
  5. Y geiriau uwchben drws y ty crwn
  6. Soffas ar ochr y lon, Brynrefail - hoe fach!
  7. Aros i wledda yng Nghaffi Brynrefail
  8. Graffiti adawyd gan Alun pan wnaeth reci o'r daith - rhag cywilydd!
  9. John x 4!
  10. Gwen x 2 a Gwyn!
  11. Dr Gwen yng Nghoed Doctor
  12. Y criw ar goll yn y rhedyn
  13. Y criw
  14. Tren gwaith yr Wyddfa
  15. Rhaeadr ucha
  16. Rhaeadr
  17. John yn gweld bod un ffan Everton arall yng Ngwynedd!