|
Daeth
17 ynghyd ar ddiwrnod braf i wneud y daith 14 milltir amrywiol hon. Cychwyn
o'r maes parcio ym mhentref Llangynidr am y de, a dringo'n serth ar hyd
llwybr ceffyl Llwynrhyn at gware (chwarel) Blaen Onnau, lle gellir gweld
panorma'r Mynyddoedd Duon a Phen y Fal i'r gogledd ddwyrain, a llwyfan
hen gaer Crug Hywel yn gwarchod y cwm islaw. Gwyro i'r de orllewin wrth
godi ar Fynydd Llangynidr [llun 1], gan wau heibio'r holl lwncdyllau a
heibio'r maen mesur uwchben Cwm Claisfer, nes cyrraedd Ogof y Siartwyr
[llun 2] lle bu'r werin yn gwneud arfau protest 150 mlynedd yn ol. Yna
ymlaen i'r Garn Fawr, cyn torri am gesail uchaf Dyffryn Crawnon, a dilyn
yr hen lwybr tram uwch y coed, a naddwyd o'r clogwyn i symud calchfaen
a mwynau at gamlas Mynwy a Brycheiniog, i'w cludo i Gasnewydd. Codi'n
annisgwyl o serth wedyn i grib Pen Rhiw Calch, a dod i olwg y Waun Rudd
a Phen y Fan, a chronfa ddwr Talybont ymhell odanom [llun 3]. Rhan ola'r
bedol oedd dilyn y grib i'r gogledd ddwyrain, a dringo talcen Tor y Foel
- ynys o fynydd sy'n cynnig golygfeydd trawiadol i bob cyfeiriad - cyn
disgyn ar ein pennau at y gamlas ger Llangynidr. [llun 4] Cyrhaeddwyd
pen y daith jest mewn pryd i weld y reff gwirion yn chwythu ei chwislen
gam yn Rhufain, ar deledu tafarn groesawgar y Red Lion.
Adroddiad
a lluniau gan Rhys Dafis
|
|