|
Daeth pump ohonom ynghyd i faes parcio Craflwyn, sef John Parry, Clive,
Gwen Richards, Eirlys a minnau.
Ar ôl yr holl law, braf oedd gweld yr haul eto. Ar lwybr Yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol roeddem ni'n gerdded i gychwyn a gwelsom eifr gwyllt. Aethom
heibio murddyn Beudy Cwm y Fedw a ddefnyddiwyd fel lloches i anifeiliaid
ers talwm. Wedi cyrraedd llwybr Watkin, a'r rhaeadr yn llifo'n wyllt aethom
heibio fferm Hafod y Llan a cherdded o gwmpas Llyn Gwynant a heibio'r
maes gwersylla
roedd y llyn yn edrych yn hardd wrth sefyll ar graig
Penmaenbrith.
Aethom heibio Sgubor Bwlch
dywedodd John ei fod wedi aros yno pan
oedd yr adeilad ym meddaint yr Urdd flynyddoedd yn ôl. Yna cerdded
yn ôl ar lwybr fferm Hafod Llan, ger yr afon. Cawsom baned a sgon
flasus yng Nghaffi Gwynant, cyn cychwyn cerdded o gwmpas Llyn Dinas. Buom
yn sgwrsio efo Ken a Mem, Llyndy Isaf, oedd yn brysur yn torri rhododendrons
rhywun arall oedd yn 'nabod Clive!
Yna,
i orffen aethom heibio Plas Craflwyn, lle roedd priodas ac aeth Clive
i mewn i edrych pwy oedd yn rhedeg y bar!
Adroddiad
a lluniau gan Delyth Evans
|
|