HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Berwyn 3 Mawrth


Bore braf yn Llandrillo - ac wele gychwyn bump o 'aficionados' y mawn!, sef John Arthur, Gwyn W, Gaynor Roberts, Gareth Hughes a finnau. I fyny efo'r Afon Ceidiog, gan alw yn Garthiaen i longyfarch Elis Lloyd ar ei 90fed pen-blwydd - a chroeso boneddigaidd fel arfer.

Ymlaen at giât mynydd ac wedyn Cwm Tywyll a Foel Fawr, a'r golygfeydd yn braf i'r gogledd. Ar ôl Moel Sych cael cinio allan o'r gwynt main uwchben Llyn Llyncaws a chryn dipyn o 'Coventry Ramblers' a'u cwn yn pasio. Am y tro cyntaf i mi gofio, gweld soser fawr Jodrell Bank yn slgeinio yn yr haul (52 milltir dros Bangor is y Coed) o Gader Berwyn, a hefyd mynyddoedd ardal y Peak yn bellach draw.

Mynd heibio y Maen Gwynedd ac i Gader Bronwen, a tharo ar gyn gydweithiwr o'r saithdegau. Ymlaen i Pen Bwlch Llandrillo, Pont yr Hydd, Ty'n Cae Mawr ac yn ôl i Llan. Yn wahanol iawn i'r wythnos dwytha (yn yr Alban), dim golwg o rugiar, na sgwarnog a dim ond ambell frân.

Adroddiad gan John Williams