Hafan

Y Clwb

Rhaglen
gyfredol

Teithiau
a
digwyddiadau

Ffurflen
ymaelodi

Rhagolygon
tywydd

Dolenni i
safloeoedd
diddorol
eraill

Oriel y Clwb

Offer i'w
logi

Mynyddiadur

Cysylltu â ni

Erthyglau
Summit

Dogfennau'r Cyngor Mynydda Prydeinig

  Dringo dringen sengl 1 Ebrill 2007

Ymarfer dringo ac abseilio syml yn Fachwen




Dyma'r ail sesiwn ddringo ar greigiau'r Fachwen. Cyfle cyntaf y flwyddyn i ail gydio mewn sgiliau dringo craig ar ôl gaeaf o seguro ac ychydig o ddringo ar furiau'r Beacon. Da oedd croesawu deg o ddringwyr brwdfrydig, rhai profiadol a rhoi hollol ddi-brofiad i lannau Llyn Padarn.

Fel roedd y dydd yn ymestyn roedd hyder pawb yn brysur gryfhau. Cyfle cyntaf Tegwen i ddringo ac arwain ar graig. Cyfle hefyd i Alan ddefnyddio ei offer newydd ac i Janet ddefnyddio'r rhaff yn yr awyr agored.
Diolch i Myfyr am rannu ei wybodaeth helaeth; i Janet, Tegwen, Dyfan a Rhodri am eu cefnogaeth a chroeso i Alan fel aelod newydd o'r clwb ac i Dai [un o selogion cangen y De] am fentro lan i'r Gogledd i ymuno a'r gweithgareddau.

Os ydych a diddordeb mewn dringo rydym yn cyfarfod bob Nos Iau yn y Beacon neu allan yn yr awyr iach. Hefyd peidiwch ac anghofio am y dringo ar Greigiau'r Dref yn Mhorthmadog hefo Dylan Huw ac hefyd dringo neu sgramblo yng nghwmni Gwyn a Myfyr ar y Glyderau.
Mwynhewch y dringo a chofiwch gysylltu.

Anita Daimond anitacdaimond@yahoo.co.uk
Arwel Roberts Arwelgwydyr@aol.com


Lluniau gan Myfyr ac Arwel


Noddir
gan:



Llety ar
y wê gan:

Diweddarwyd gan y gwefeistr: 11/5/07 17:24