![]() |
||||||
|
|
Taith i'r Iwerddon Hydref 2006 | |||||
|
|
||||||
|
De orllewin Iwerddon a chyfle arall i roi cynnig ar gopa ucha'r wlad, dyna oedd atynyniad mawr y daith hon. Ar ben hynny roedd Clive wedi trefnu llety moethus am bris rhesymol yng ngwesty'r Kenmare Bay Hotel ac roedd y cwmni, fel sy'n arferol, yn rhagorol. Teithiodd Dyfir a fi efo Ryanair i Shannon gan logi car yn y fan honno a chyrraedd Kenmare nos Wener. Ymunodd Clive, Arwyn, Gwyn, Anet, Gwen a Rhiannon a ni nos Sadwrn wedi croesi efo'u ceir o Gaergybi a chawsom gwmni Iolyn am ddau ddiwrnod - yntau ar ei ffordd o Bontsenni i'w waith yn Nulyn ! Bore Sul gwlyb a'r cymylau'n isel ond roedd Clive wedi trefnu gwasanaeth tywysydd lleol, sef Rhys Llywelyn, sydd yn wreiddiol o Lansannan ond yn byw ac yn gweithio yn ardal Kenmare. Aeth Rhys a ni i ben mynydd Mangerton (839m), niwl, glaw a gwynt ond gallem ddychmygu bod golygfeydd gwych i'w gweld ac yn wir cawsom gip ar lynnoedd Killarney ar y ffordd i lawr. Bore Llun wedyn penderfynu efallai y byddai'r tywydd yn well wrth lan y mor, felly i lawr a ni i Orllewin Cork gan anelu am droed yr Hungry Hill (684m). Cael hyd i'r copa yn weddol ddi-drafferth ond y daith i lawr yn y niwl yn her gan nad yw'r map yn dangos y creigiau ! Diolch i'r GPS roeddem yn ôl wrth y ceir erbyn iddi dywyllu - ond yn ein brys i gyrraedd i lawr cyn nos roeddem heb fwyta drwy'r dydd "Hungry Hill" yn wir ! Y rhagolygon tywydd at ddydd Mawth yn well a dyma gyfle i mi roi ail gynnig ar Corran Tuathail (1039m) mynydd ucha Iwerddon. Wyth ohonom yn cychwyn o ochr Glencar gan adael Dyfir yn Kenmare - diwrnod i'r brenin ! Pedol Chom Luachra amdani a'r tywydd yn deg; Binn Chaorach (1010m) oedd y copa cynta ac erbyn hyn doedd fawr i'w weld ond niwl eto. Arwyn, Anet, Gwen a Rhiannon yn penderfynu mynd yn ôl i lawr y gefnen a'r gweddill ohonom yn gyrru ymlaen at Corran Tuathail. Gofal yn y niwl wrth ganfod a chroesi'r creigiau cul sydd yn arwain at y copa mawr. Cyfarfod a thri o Cork ar y copa, tynnu llun, ac ymlaen am y trydydd sef Cathair (1001m) - ond haws dweud na gwneud, Darganfod ein bod ar y llwybr anghywir, dringo nol i'r copa, map a chwmpawd gofalus y tro hwn a chael hyd i'r llwybr a chopa Cathair cyn cychwyn ar y daith hir i lawr. O'r diwedd golygfeydd ysblennydd o'n blaenau a chyfarfod a'r lleill wrth y ceir wrth iddi dywyllu. Roedd hi'n nos Fawrth, noson olaf Dyfir a fi, i lawr a phawb i Kenmare am swper a chyfle i gyfarfod â Rhys eto - llongyfarchiadau i Dyfir ar arwain ei thaith gynta a hynny yn y tywyllwch ! Fe wawriodd dydd Mercher yn hyfryd a ni'n dau'n troi am Shannon gan adael y lleill yn yr heulwen ar Fynydd Brandon. Diolch Clive am daith ragorol arall efo'r Clwb. Adroddiad a lluniau gan Llew ap Gwent (ail ran, gan Anet, wedi'r lluniau) Dyma luniau (clicier i'w chwyddo)
Ail ran y daith - gan Anet Ar
ôl i Llew, Dyfir a Iolyn ei throi am adra mi wellodd y tywydd yn
sylweddol ac i ffwrdd â ni am Fynydd Brandon. Ar ôl anturiaethau
Hungry Hill a champ Gwyn a Llew gyda'r map , y cwmpawd a'r GPS roedd y
profiad ar Brandon yn bur wahanol.Byddai'n go anodd mynd ar goll yma yn
y niwl mwyaf trwchus. Roedd pyst gwynion a chroesau yn ein harwain yr
holl ffordd i'r copa. Ac o'r copa roedd y golygfeydd o Benrhyn y Dingle
ac Ynysoedd y Blasket yn werth chweil. Rhagor o luniau gan Anet (Clicier arnynt i'w chwyddo)
|
||||||
|
Noddir gan: Llety ar y wê gan: |
||||||
| Diweddarwyd gan y gwefeistr: | 11/5/07 16:37 | |||||