|
Roedd
Dewi Hudson Jones yn 70 yh ddiweddar. I ddathlu'r achlysur aeth criw ar
y tren i Danygrisiau a dringo'r Moelwyn Mawr. Dyma'r canfed tro i Dewi
fod ar y copa! Er gwaetha'r niwl, a gwynt â'r glaw yn genlli mi
gafwyd diwrnod i'w gofio. Yn y pedwerydd llun mae Dewi efo'i frodyr Alwyn
a Gareth ar y copa. Gweddill y criw oedd John a Carys Parry, John Williams,
Rodney Hughes, Alun Gwynnant, Rowland Dawes a minnau. Rowland wnaeth y
crys mae Dewi yn ei fodelu yn y Ring yn Llanfrothen yn swper y dathlu.
Eisoes mae sgwrs stop tap wedi troi at y dathliadau ymhen deng mlynedd
...
Adroddiad
a lluniau gan Gerallt Pennant
|
|