Cael
llety yng ngwesty Tibet Newydd - y gore yn Chame gyda thy bach
eistedd lawr, hwre.
Dydd
Iau Ebrill 13
Codi am 6.00 Teimlo mod i heb gysgu oherwydd swn cwn yn cyfarth, y gwynt,
llif yr afon Marsyangdi, ynghyd a poeni am chwain a mygu fy hun
wrth gau fy fleece liner yn dynn amdanaf. Brecwast am 6.45 yn un arbennig
o dda. Alwen ddim yn teimlo'n dda, cur pen. Gwyn hefo poenau stumog.
Pawb arall i weld yn OK. Cychwyn cerdded tua 8.30. Diwrnod braf ond
braidd yn gymylog. Cerdded ar hyd ochr yr afon, gweld dynion lleol yn
adeiladu wal o gerrig yr afon i atal erydiad.
Sylwi ar flodau gwyllt, hardd alpaidd, Alan yn dda am adnabod yr enwau.
Cerdded drwy goedwig pin a junipers, arogl hyfryd. Mwynhau gweld y tirwedd
a sylwi pa mor wahanol ydyw i ardal Everest/ Sagamartha/
Chomolungma. Syllu
a rhyfeddu ar Annapurna 2 a chreigiau hollol wahanol i unrhyw le/ gwlad
i mi sylwi arnynt o'r blaen. Gweld aderyn anferth wrth y creigiau, yn
anffodus roedd wedi mynd cyn i fi dynnu'r sbienglas allan. Rhyfeddu
gweld dyn yn reidio un o'r mulod dros pont crog. Bibi (un o'r Sherpas)
yn gofyn i fi roi tusw o flodau ar y bont a dweud y weddi fach "O
ma padme nw". Cerdded yn hamddenol a phaned o de tua 10 yn
Bharatang. Na'i ddim manylu am y ty bach yno ond es i allan yn
cyfogi a gwneud tu allan! Symud ymlaen am rhyw ddwy awr i bentre bach
Dhukure Pokhari i gael cinio blasus iawn o gawl llysie a noodle
a chrempog tibetaidd hefo mel. Ymlaen eto ar i fyny ond dim byd anodd
i'n gwesty bach yn Lower Pisang . Dyma
ardal wahanol eto. Geifr ymhob man a ieir a gwartheg. Cael ein cyfarch
gan blant oedd heb weld dwr a sebon ers tro byd. Hefin yn tynnu llun
plentyn bach ond heb sylwi ei fod yn gneud ei fusnes ar y pryd, ar y
llwybr. Rhodri ac Alan yn galw arno a dyma ni'n penderfynu rhoi gweddi
wrth droi yr olwynion gweddi (150 a 2 fawr) gan obeithio iddo gael maddeuant.
Tirwedd llawer mwy llychlyd hefo coed pinwydd yma ac acw. Sylwi ar Chorten
yn uchel, i gofio am y meirw meddai Kamal. Cefais sgwrs ddifyr efo Kamal
heddiw yn son am ei atgofion o Feddgelert. Diwrnod o dynnu coes ond
mae Gwen yn dechrau cwyno rwan mod i'n sgwennu gormod, felly OK dwi'n
cau fy ngheg. Ond
rhaid deud hyn, pawb mewn cotiau trwchus ond John A - mewn crysT - gwaed
gwahanol mae'n amlwg. Diwedd y noson hefo canu a dawnsio gan y porthorion.
Dydd
Gwener y Groglith Ebrill 14
Lower Pisang,3200m---Ghyara,3670m,---Braga,3360m,---Manang,3540m.
Diwrnod hir o 8 y bore tan 5 y nos a'r darn cyntaf i Ghyara yn
galed, yn codi bron 500m mewn dim, ond profiad defnyddiol iawn am y
dyddiau nesaf. Tywydd
wirioneddol bendigedig, roeddem yn cael gweld y mynyddoedd yn eu gogoniant-
Annapurna 2, 3, a 4 mor ddisglair,gwyn a siapus. Rhywbeth i'w
gofio a'i drysori.
Cerdded
drwy hen bentrefi, ffermydd a thir aredig. Cael row am dynnu llun. Plant
bach yn ein herio a chael hwyl. Cyrraedd Manang o'r diwedd a
phawb yn falch. Kamal yn dewis y bwyd i bawb heno am fod rhai yn teimlo'n
sal ers dyddia. Ei ddewis oedd cawl, Momas a thatws mash, bwyd
gwyn ar blatiau gwyn.
Dydd
Sadwrn Ebrill 15
Manang yn dref sylweddol gyda nifer o siopau yn gwerthu amrywiaeth
da o gynnyrch. Dymunol oedd codi am 7,30 a chael brecwast hamddenol.
Cychwyn cerdded am 8.45 ar daith cynefino am oddeutu 3 awr. Llwybr serth
gan basio "hafod". Yr haul yn tywynnu yn dirion iawn a golygfeydd
godidog o'r Annaournau a'r Gangapurna.
Cafwyd olygfa dda iawn o'r Chulau i gyd.sef Chulu West,
Central, East a Far East. Roeddem yn gweld Thorung
La, neu gyfeiriad y bwlch o leiaf. Codom 500m, sef i fyny i 4k-
½ yr Annapurna.
Drwy amryfusedd safodd Morfudd rhy agos i'r grib ger y llyn a chwythodd
ei chap haul i'r dyfroedd. Trist iawn. Cinio
dymunol am 2.00pm ac erbyn 3.00 roedd pawb wedi ymgynnull yng nghanolfan
Feddygol Manang. Roedd doctor ifanc o sais yno yn egluro pwysigrwydd
yfed digon a cheisio rhagweld symptomau Salwch Uchder a sut i ddygymod
ag o. Roedd Gwen Richards wedi bod yn gweithio yno ac mae ei phoster
hi o'r PYG trac yn dal i addurno drws yr oergell yn eu cegin hwy. Wedi'r
ddarlith aeth 7 i weld ffilm, Seven Years in Tibet. Fy hun es
i gysgu am 3 awr ac aeth eraill gylch y dre. Yn ogystal a Morfudd, cafodd
Jer anffawd wrth olchi ei sannau- welodd o mohonyn nhw wedyn. Sannau
drudfawr hefyd. Gochelwch drecers!!
Dydd
Sul y Pasg Ebrill 16
Taith hir heddiw felly codi'n fore.
Bagiau i gyd ddim yn dod i Tilicho Base Camp felly gorfod dewis
beth oedd yn angenrheidiol at y ddau ddiwrnod nesaf. Cychwyn
am 8.30. Llwybr hamddenol allan o Manang tuag at Khangsar.
Llawer yn trin y tir ar y ffordd. Ymhen dwy awr a hanner cyrraedd Khangsar
(12251 troedfedd).
Cael
cinio yno ac ymweld a'r mynachdy. Tua 12.30 cychwyn ar daith o rhyw
4 i 5 awr. I ddechrau roedd yn lwybr gwastad yn codi'n araf ac yna'n
zig zagio yn weddol serth.
Doedd hyn ddim byd tebyg i beth oedd o'n blaen yn nes ymlaen, newidiodd
y llwybr i fod yn syth i fyny. Rhyddhad a balchder wedi ei oresgyn.
Wedi ychydig o gerdded ar wastadedd uchel y llwybr yn croesi rhywbeth
yn debyg i ben y Watkin ar yr Wyddfa. Croesi'r sgri a phawb yn helpu
eu gilydd. Hyn am tua awr i awr a hanner. O'r diwedd rownd y tro a gweld
Base Camp Lodge.
Pawb yn llawenhau o'i weld er bod taith o tua hanner awr eto. Argraff
gyntaf ar y lle yw nad yw glendid yn un o'r uchafbwyntiau. Gorfod rhannu
ystafelloedd fesul 3 gan bod y perchennog eisiau cadw un neu ddwy ystafell
lân(!) yn rhydd rhag ofn i rhywun arall ddod. Nid pawb oedd a
gwydr ar eu ffenestri. Ar ôl dwy noson mewn lodge gyda en-suite
tipyn o newid i lodge a'r lle chwech ym mhendraw yr ardd, a dim ond
un. Cyfleusterau molchi-peipiau dwr oer wedi rhewi. Bwrw eira tu allan
a gan mai dim ond un golau sydd yn y lodge, gwely cynnar.
ON. Yn Khangsar gweld plant yr ysgol yn chwarae gyda peipiau
dwr-sleid a swings!
Dydd Llun Ebrill 17
Bore braf arall ar ôl noson oer. Y beipen ddwr wedi rhewi. Swn
clychau'r yaks fel roeddynt yn cychwyn fyny llwybr serth iawn tu ôl
i'r lodge. Ar ôl brecwast, cychwyn tua 8.15 am lyn Tilicho
gyda o gwmpas 3000 o droedfeddi o godi. Disgwyl diwrnod caled iawn ond
yn teimlo'n dda heddiw. Y rhan gyntaf o'r llwybr yn mynd trwy Helyg
a choed Bedw Himalaya. Codi ar eira ar draws llethr go serth
gyda Pusendanda creigiog, 5279m, o'n blaen. Llwybr yn codi'n
raddol rwan, croesi ychydig lethrau sgri yna llwybr eto gyda llwyni
Potentilla ac Azalea ar yr ochr. Clympiau o Saxifrage
ymhobman. Sylwi ar rhywbeth ar y dde, troi allan i fod yn anifail gwahanol
i be welsom yn y dyddie cynt. Y rhain, yn enwedig y gwryw yn edrych
yn debyg i'r defaid glas dwi wedi gweld ar y teledu. Llwybr yn mynd
yn fwy serth gyda'r eira yn unig ar y llwybr, yn codi gyda golygfeydd
bendigedig. Eira mawr ymhobman a llethrau serth i groesi. Mannau heb
eira yn uwch i fyny heb dyfiant ond cen a mwsog hardd a lliwgar yma
ac acw. Lefelu rwan a chroesi eira mwy meddal i fan uwchben y llyn ar
uchder o tua 5000m. Roedd y llyn tua 100m oddi tanom ond nid oedd rheswm
i fynd i lawr ato.
Arhosom ac edrych o gwmpas y lle hudolus. Khangsar Kang 7485m
a Tilicho Peak 7134n yn tyrru uwch ein pennau. Bendigedig. Yr
hogia, wedi cario ein sachau trwy'r dydd, yn dod a flasg o de a bisgedi
allan. Bu'n daith o tua 4 1/2 awr i'r man uchaf. Cychwyn i lawr am 1.15
a chyrraedd am 3.00 wedi dilyn yr un llwybr. Diwrnod da iawn yng ngofal
Kamal Bibi, Hira yn cario fy sach a gweddill yr hogia ond gyda Tek yn
arwain, sef yr unig sherpa oedd wedi bod yno o'r blaen. Yn
sgrifennu hwn rwan am 5.30 gyda'r eira yn disgyn. Gobeithio fydd dim
eira ar y sgri anferth yna ar y ffordd nôl yfory. 
Dydd Mawrth Ebrill 18
Yr un daith a dydd Sul oedd hwn ond yn y cyfeiriad croes ond ni fedrai
fod wedi bod mwy gwahanol. I mi taith yr EIRA fydd hwn. Codi am frecwast
am 7.30 gan fod Kamal eisiau cychwyn yn brydlon. Roedd yn cysidro mynd
i Yak Kharka . Roedd o gwmpas chwe modfedd o eira sych man wrth
adael Tilicho Base Camp ond 2 awr yn ddiweddarach ar uchafbwynt
y daith roedd yn agosach i droedfedd. Dim ond ychydig yn ddyfnach a
gwlypach aeth pethe i Kanshar ble cawsom ginio a gorffwys ychydig
cyn gyrru ymlaen i Manang. Cyrraedd tua 5,15 ar ol rhyw 9 awr
o daith.
Rhai argraffiadau o'r diwrnod: Y parti yn edrych fel cadwyn neu fwclis
lliwgar wrth groesi'r llethrau scri anferth wedi eu gorchuddio ag eira;
Gweld
yak efo cyrn anferth ar fan uchaf y daith yn edrych yn gyfangwbwl
yn eu cynefin;
Yn
bennaf y ffordd mae Kamal a'r hogia yn gwneud bob dim i sicrhau diogelwch
pawb tra yn aml yn cario dau sach ar eu cefnau.
Dydd Mercher Ebrill 19
Codi i gael brecwast hwyrach am 8.00 sef beans ar dost neis iawn a'r
stumog lot gwell. Gadael Manang a cherdded i fyny i Gunsang.
Yr haul yn danbaid a'r eira trwchus wedi dechrau toddi, bydd tatws yr
hen bobl wedi difetha! Falch o gyraedd i gael stop cinio, er bo'n rhaid
symud o un lle i'r llall gan nad oedd bwyd ar ôl, wel dim ond
te du. Bwyd blasus yn yr ail le, gan leian, a Kamal yn ei chanmol am
lendid y lle. Trigolion lleol ar ben to yn rhawio'r eira i ffwrdd, mae'n
debyg sa'r to'n sigo fel arall, ddim yn edrych yn rhyw sad iawn fel
mae. Gwen yn cael nap a breuddwyd fach yn ôl y swn, a phawb yn
ymlacio. Golygfeydd gwych o Annapurna 3 a Gangapurna.
Dal
i gerdded uwchben yr afon sy'n llifo o'r Chulus. Cyrraedd Yakarku
a'r tywydd yn dechrau oeri. Wedi blino erbyn hyn ac yn falch o gyrraedd
Letdor.
Diwrnod
da, 'di cael digon o hwyl gyda'r porthorion yn taflu peli eira ac mi
fyddai'n falch o 'ngwely unwaith eto.
Dydd
Iau Ebrill 20
Y trecwyr
Heddiw yw diwrnod y gwahanu gyda'r 9 mynyddwr talog yn mynd am yr uchelderau
a'r 3 twrist yn dal i drecio. Roedd gwylio pawb yn sortio'u ger yn agoriad
llygad, rhaid cael y pethe angenrheidiol at 3 safle gwahanol, base
camp, high camp ar daith i'r copa. Cawsom gychwyn gyda'n
gilydd yna ffarwelio emosiynol a ni'n 3 mynd ymlaen ar hyd y llwybr
gwastad a chofio'r mynydd serth roedd ein cyfeillion yn ei wynebu. Yn
ôl trefniadau gofalus Kamal roedd Hira yn ein harwain yn cario
un sach a Pasang yn borthor yn cario dwy. Roedd yn fore braf a nawr
ein bod ar amserlen llacach , digon o amser i edrych o'n cwmpas a thynnu
lluniau. Yn dal i ddilyn afon ddoe tan yn sydyn troi congl a gweld pont
pren isel.
Roedd rhaid dringo reit lawr ato ac ynai fyny'n serth yr ochr arall.
" Ble mae'r bont crog pan mae ei hangen hi?" medde ni'n tri
mas o wynt. Ond roedd gwobr wedi'r dringo mewn ffurf ty-te unig a gwraig
raslon yn ein croesawu. O hynny mlaen, doedd dim mwy o ddringo ond roedd
sawl man ble bu tir lithriad ar draws y llwybr. Cyrraedd ein safle cysgu
nesa a Hira'n trefnu llety 'mhen dim. Dwi'n cysgu yn Rhif 1 Thorung
Phedi, gyda Hefin yn Rhif 2 a John Arthur yn Rhif 3.
Amser swper penderfynom wahodd y bechgyn i fwyta gyda ni. Ni 'n talu
ac yn addo peidio dweud wrth Kamal! Dewisodd y ddau pizza bob un ond
dwi ddim yn meddwl iddynt ei fwynhau. Dahl Baat am byth medde
nhw.
Y dringwyr
Codi'n hwyrach bore ma, diwrnod bach i fod. Cychwyn tua 10 i fyny am
base camp 4825m. Cerdded i fyny man go serth, dim gwynt a'r haul
yn tywynnu ar ein cefnau, ni'n mynd yn ysgafn a'r porthorion yn gwneud
dau drip. Cyrraedd base camp tua un o'r gloch, edmygu Chulu
West a'r golygfeydd i'r gorllewin o'r Great Barrier.
Y porthorion wrthi'n gosod y tents i fyny, un i bob dau berson, toilet,
cooktent ac un mawr i bawb fwyta ynddo. Pawb yn diogi drwy'r p'nawn.
Erbyn gyda'r nos yr awyr yn cymylu 'chydig a'r tymheredd yn disgyn i
rewi yn sydyn. Dahl Baat i swper a gwely erbyn wyth.
Dydd Gwener Ebrill 21
Y trecwyr
Deffro i haul braf, dim cwmwl yn yr awyr ond rhyw awel fain. 'Chydig
yn nerfus o gychwyn am y pass ond ar ôl brecwast am saith
roedd Hirakaji yn awyddus i fynd. Dim brys , roedd gennym drwy'r dydd
a diwrnod caletach o'n blaen ar ddydd Sadwrn. Felly mynd dow dow a gorffwys
cyn blino wrth ddringo'n igam ogam. Yn sydyn iawn, heb i ni ei ddisgwyl
gwelsom High Camp. Ei gyrraedd mewn awr a ¾ er bo Hirakaji
wedi disgwyl i ni gymeryd 2 awr.
'Stafell bob un, dim toilet yn y stafell, 'sdim ots, ein noson ola
ar uchder. Cael cinio cynnar a mwynhau yr haul. Swper cynnar heno a
gwely cynnar gan mai'r cynllun yw codi 3.00 a chychwyn 4.00. Holi Hirakaji
faint o amser gymerith hi i ni gyrraedd Thorum La petai ni'n
cerdded ar yr un cyflymder a heddiw. 4awr oedd ei ateb ac er i ni bwyso
arno roedd yn ffyddiog. Newydd da arall oedd clywed ein bod eisoes wedi
neud y darn mwya' serth sef o'r daith i ben y bwlch. Penderfynu
pa ddillad i wisgo bore fory yw'r dasg nesaf. Sôn dipyn am y mynyddwyr.
Gobeithio fod pawb yn ddiogel a cheisio dyfalu lle roeddant, base
camp neu high camp. Rydym yn gweld Chulu West o'n
high camp ni ac mae i'w weld yn uchel iawn. Dwi'n siwr ei fod
yn edrych yn uwch o'u camp hwy. Yr Awstralian o Wagga Wagga
yn cyrraedd fel corwynt gyda'i gamera. Almaenwr hefyd yn cyrraedd yn
cario ei bac ei hun ac wedi llwyr ymladd. Pawb
i'w wely cynnar i ddarparu am fory.
Y
dringwyr
Deffro'n fore wedi noson oer iawn, poteli dwr wedi rhewi'n galed tu
fewn i'r babell. Gwneud cyfrif o'n mintai, sylwi fod un ar goll, ac
yn poeni fod llewpart yr eira wedi dwyn un o'n mysg, ond yn falch o
sylwi fod y "babell fach" mewn defnydd, a'n nifer yn gyflawn
eto. Yn wir mi roedd hoel pawennau o gwmpas ein pebyll, ynyr eira -
yn ôl eu maint a'u ffurf yn gath wyllt - nid ei brawd mawr. Wrth
i'r haul godi cyfle i sychu'r pebyll a gosod y sachau cysgu hyd y creigiau.
Brecwast arbennig yn yr awyr agored, uwd chapati,wy a phaned.
Golygfeydd anhygoel o'n cwmpas. Y dringwyr Sherpa Mingmar a Bibi Lal
yn cychwyn i fyny i'r haen garreg a'r llethrau eira uwchben i osod rhaffau
yn barod at y ddringfa fory. Ar ôl ychydig o amser yn Base
Camp yn didoli ger dringo yn yr haul, aethom i fyny at y cyfrwy
o dan y "rock band" a sbio fyny at y graig fawr - yn
edrych yn anodd iawn.
Golygfa
o'r Base Camp yn bell odditanom, a'r Chulu West yn fynydd
hardd iawn, seracs a ffurfiau rhew dramatic iawn. Swn avalanche
yn rhuo lawr gwyneb Chulu, cwmwl o eira ar ei ôl. Chortennau
bychain a baneri pader yn cyhwfan ar y bwlch, 5100m. Golygfa draw at
fwlch y Thorong La hefyd. Dringo ychydig yn uwch trwy drwch o
eira at 5200m, ac yna i lawr i BC yn reit sydyn ar lethr sgri
hir. Y dringwyr sherpa yn egluo mwy am natur y ddringfa o'n blaen, yn
sbio fod gan bawb yr offer cywir, a gosod rhaff rhwng dwy garreg er
mwyn ymarfer efo'r Jumar ascendeur. Swper arbennig o dda yn y
babell fwyd a rhybudd o gychwyn cynnar fory am yr High Camp!
Dydd
Sadwrn Ebrill22
Y trecwyr
Daeth Y diwrnod. Roeddwn wedi meddwl dweud "Gwawriodd y diwrnod",
ond gan ein bod wedi codi am dri o'r gloch bore ni fyddai'n gywir. Y
cynllun oedd i gychwyn dros Thorong La i Muktinah am bedwar o'r gloch
ond roedd yn agosach i 4.30 arno ni. Beth yw'r ots, doedd neb yn frwdfrydig
am deithio mewn tywyllwch. 
Cychwyn ar draws ochr serth a sgri ac ennill uchder yn raddol. Dal I
fynd nes y daethom at bont bren fechan ymhen rhyw ¾ awr. Erbyn
hyn 'roedd yn gwawrio a'r mynyddoedd yn dod i'r golwg tu ol i gochni'r
haul yn erbyn awyr las. Ambell I gwmwl yn yr awyr ond clir ar y cyfan.
Erbyn hyn nid oedd angen torches I gerdded. Dal i godi yna'n sydyn dod
at dy te (5100m-16752 troedfedd) sydd yn ol Hirakaji tua hanner ffordd
i'r copa. Dwi'n amau bod Hirakaji a Pasang wedi deffro'r perchnogion
oherwydd pan aethom i mewn am baned 'roeddynt yn pacio i fyny eu hoffer
cysgu!
Wedi'n
paned, esgyni fyny eto a chroesi llawer o gopaon ffug cyn dod at lethr
gweddol hawdd pryd yr oeddem yn gweld fflagiau gweddi Thorung La yn
y pellter.Ar ol teithio rhyw 31/2 awr o High Camp, canfod ein hunain
ar Thorung La (5416-17769tr) Llongyfarch ein gilydd am ein gwrhydri
gan mai dyma'r pwynt uchaf ar dir y byddwn ni'n tri yn ei gyrraedd yn
ystod ein taith a mwy na thebyg yn ein hoes!
Hyd yn hyn y tywydd wedi bod yn hynod o braf,a'r awyr yn glir, ond yn
awr mae cymylau yn decgrau crynhoi. Erbyn i ni yfed paned arall yn y
cwt ar y copa roedd yn dechrau pigo eira.
Cychwyn
lawr am chwarter i naw a'r eira'n gwaethygu. Disgyn drwy ganol dyffryn
a cholli uchder yn sydyn iawn. Dan draed yn llithrig a charregog ac
felly angen gofal mawr. Y gawod eira'n pasio ymhen awr ac awyr las am
ychydig ond yna death niwl adyma ni'ngweld pentref o'n blaenau yn y
pellter a gwyrddni. Dal i ddisgyn yn serth, erbyn hyn y llwybr yn gwbl
glir o eira, at le syml o'r enw Chabarbu (4290m-14075tr) lle y cawsom
ginio. Wedi hynny , dal i ddsgyn drwy'r dyffryn gyda chaeau bach oedd
yn bosib eu trin, cyn croesi afonig a fydd, ymhellach ymlaen yn tyfu
yn afon Thong Khola. Disgyn rownd y gornel i ddod at gysegr sanctaidd
Muktinath (3800-12467tr) tu ol i furiau gwyn. Ymhen rhyw 10 munud dod
i ganol tref Muktinath (er mai ei enw cywir yw Ranipauwn) Falch o weld
y Lodge "North Pole" lle yr oeddem i aros. Cyrraedd tua chwarter
i bedwar ar ol diwrnod hir. 
Balch
o gael cawod boeth cyn swper ac yna i'r gwely am noson dda o gwsg ar
ol diwrnod bendigedig a oedd yn haws nac oeddem wedi ofni. Cysgu'n drwm
a rhyddhad bod nod arall o'r daith wedi ei gwblhau yn ddidramgwydd.
ON
Yn Muf\ktinath gwelsom feic modur, felly meant wedi darganfod ei bod
yn bosib defnyddio olwynion ar dir.
Y
dringwyr
Noson rhywfaint llai oer na neithiwr er bod y botel ddwr yn dal wedi
rhewi. Pawb I fyny erbyn 6am yn trio stwffio gormod mewn I sachau rhy
fach. Gadael Base Camp am 8am. Llawer o'r eira caled oedd ar y sgr ddoe
wedi toddi, anoddach cerdded o'r hewydd.
Cyrraedd y bwlch{5110m} tua 9;30. Cymylau eira wedi cyrraedd, a'r copa
wedi diflannu o'r golwg. Mochel mewn cysgod carreg/ogof i wylio'r tywydd.
Ceri ac Alwen {y rhai call?!} yn penderfynu troi'n ol ac i lawr i Lattur.
Er
gwaethaf ambell gip tuag at Thorung La, y tywydd ddim yn clirio. Codi
pebyll yn y bwlch ar eira {pawb ond Morfudd}. Diogi am y pnawn.
Bruce
yn cael cacen penblwydd i ddathlu mewn safle unigryw. 
Pawb
yn cysgu yn gynnar er mwyn codi am hanner nos i gychwyn ar y mynydd.
Dydd
Sul Ebrill 23
Y trecwyr.
Cysgu, wel, gorffwys beth bynnag, o 7 y nos tan 9 y bore. Dyma ein diwrnod
o hamdden. Yn araf braf wedi gwisgo dillad hafaidd dyma ymlwybro nol
i dop y pentref.gyda Hira i ddarganfod beth sy' tu ol i'r wal wen mae
e'n galw yn Ardal y Deml. Wedi canu'r gloch fawr i hysbysu'r mynachod
o'n dyfodiad, cerddom heibio 177 o olwynion gweddi i weld "gwyrth
y dwr sy'n llosgi".
Digwydd hwn tu mewn i Gompa dywyll. Rhaid tynnu'n sgidie cyn mynd i
mewn, yna plygu lawr i edrych mewn i siamber i weld y fflam las olau
a chlywed y dwr yn byrlymu o'i cwmpas. Mae'n debyg bod nwy naturiol
yn saethu allan o'r graig a bwydo'r fflam.
Mae'r crefyddau yn cydfyw yn gysurus yma- esiampl dda i gapeli Cymru.
Er mae Bwdist yw'r holl Ardal mae'n cynnwys y fangre mwyaf sanctaidd
ond un yn Nepal i gyd. Gwelsom "sadhus" yn cyrraedd pen eu
pererindod hir er mwyn addoli yno. Roedd gan un ohonynt fwnci yn teithio'n
cysurus ar ben ei bac. Uwchben mae teml Bwdaidd gyda 108 pen anifail
yn poeri dwr i lyn o'u cwmpas.
Dyna
ni wedi cael ein gwala o ddiwilliant a chrefydd. Gwneud dim am weddill
y dydd ond gwylio'r byd yn mynd heibio ein "Roof Top Restaurant".
Y
dringwyr
Anodd gwybod ble i ddechrau gyda diwrnod mor hir a hithau'n ddiwrnod
Chulu W.
Roedd
y cymylau wedi clirio, tymheredd -10c a'r wybren yn hollol glir am 00.05
pan oedd pawb yn mwstro.
Roedd y penderfyniad (ar ran y sherpa dringo) i geisio'r copa yn un
amheus iawn hy. codi o 5130m I 6419m mewn un tro, ond roedd hyn ymhell
o'n meddwl ni am 01.15 wrth gychwyn i fyny'r llethr eira. Mi aeth dringo'r
band cerrig gyda chymorth rhaffau yn iawn, ond bod y gosod yn diffygiol
(yn ol ein safonau ni). Wedi'r cerrig roedd eira neu rew dan draed ac
mi ddaeth yn glirbod Mingmar a Bibalal ddim yn gyfarwydd a'r mynydd
ac yn teimlo eu ffordd drwy'r dydd. Doedd dim codi'n raddol achos y
grib rhewllyd a welwyd o "Base Camp", yn rhewlif bendramwngl
i gyd wedi cuddio dan haen o eira ffres.
Yng
ngolau dydd yr unig batrwm oedd goresgyn llethr serth fesul un a thrwy'r
amser y lefel neu gronfa o egni yn gollwng. Mi ddaethom i benderfyniad
troi nol tua 10.30, o leia 2-3 awr o'r copa --be baem ni wedi cario
mlaen, bydde ni wedi cyrraedd yn ol yn oriau man y bore. Yn syth wedi
dod i benderfyniad, dechreuodd y cymylau gasglu a'r tymheredd i ddisgyn
gyda'n gobeithion ni am daith di-drafferth yn ol. Roedd ein tywyswyr
yn ffyddiog mai i lawr y rhewlif oedd y llwybr mas.
Cychwynnwyd i lawr mewn gobaith, ond wedi sawl pwyllgor daeth yn amlwg
bo' dim ffordd drwy'r rhew torredig,cuddiedig-yr unig ateb oedd mynd
nol i fyny, uffern o ergyd i bawb. Y daith yn ol yn gyfres o abseil,
cerdded yn y dull Alpaidd a baglu drwy'r eira medal. Dwi ddim yn cofio
llawer am y daith i ddychwelyd, dim ond mod i eisiau iddi ddod i ben!
O'r diwedd cyrraedd y band cerrig a hunllef drwy'r we o raffau a hithau'n
tywyllu. Pawb yn gollwng ei hunan fesul un, Morfudd yn olaf yn y tywyllwch
a ninnau'r bechgyn yn cysgodi o dan graig, y gwersyll dros dro. Cyrraedd
yn ol yn ddiogel i base camp erbyn 21.00. Tipyn o drafod am y daith,
doethineb yn y lle cyntaf oherwydd diffyg amser, tywydd anffafriol,
nature y tir a diffyg manylion am y mynydd ac yn y blaen. Felly pawb,
Morfudd, Rhodri, Alan, Gwyn, John P a Bruce nol yn ddiogel. Wedi cyrraedd
tua 5750mo uchder ac o fewn 2neu 3 awr o'r copa. Golygfeydd anhygoel
i bob cyfeiriad a thipyn o wersi wedi eu dysgu ar gyfer y dyfodol falle?
A phrofiad arall i'w gofio pan fydd y coesau yn methu o'r diwedd.
ON
Mor denau yw'r llinell rhwyng llwyddo a gorfoledd, a methu. Dygymod
a'r ail yw'r gamp.
Dydd
Llun Ebrill 24
Y trecwyr
Muktinath i Kagbeni
Codi
wedi noson heb lawer o gwsg. Dim yn teimlo ein bod wedi gwneud digon
i haeddu noson lawn o gwsg. Cychwyn am Kagbeni tua 9.30 a mynd i lawr
allt am 1000m. Cerdded braf hamddenol gyda'r tywydd fel diwrnod o haf
adref, hyfryd iawn .Gwen yn prynu sgarff i'w ffrind gan ddynes ar ochr
y ffordd.
I lawr ac I lawr gan adael gwyrddni y ffermydd islaw Muktinath a chyrreadd
tirlyn hollol wahanol. Dim tyfiant o gwbl ond yn gweld Mustang yn y
pellter. Cododd y gwynt wrth i ni ddisgyn a bu raid i John glymu ei
gap yn sownd.
Gwlad
Kagbeni yn wyrdd fel oasis a choed ffrwythau ymhobman.
Cael
gwesty braf a mynd am dro o amgylch y pentref. Strydoedd bach cul yn
arwain o un lle i'r llall. Diddorol iawn. Cyrraedd mynedfa Mustang ble
roedd arwyddion yn ein rhybuddio rhag mynd dim pellach heb drwydded
($700 y pen) Roedd fel edrych ar wlad ddirgel. Beth sydd yno?
Gorffen
y noson fel pob un arall erbyn hyn, ceisio dewis rhywbeth diddorol o'r
fwydlen ac i'n gwelyau fel roedd yn tywllu.
Y
dringwyr
Dwi ddim yn cofio cysgu mor dda a thrwm er i mi fod mewn pabell yn agosi'r
porthorion (porthorion yn siarad hyd yn oed yn fwy na fi pan meant hefo'i
gilydd-hyn o brofiad pan oeddwn mewn pabell o dan y graig/ogof gyferbyn
a'u pabell nhw! Roedd brecwast am 8.30, nes i ddeffro am7.45 ond ail
gysgu hyd at 8.45!
Brecwast
allan yn yr haul. Pawb yn cyfarch ei gilydd ac yn falch ein bod i gyd
yn ddiogel ar ol ddoe.Roedd y sgwrs dros frecwast am ddoe. Ail fyw y
daith a meddwl sut y bydde ni wedi gallu ei wella. Kamal yn dod ataf
i ymddiheuro. Roedd yn dweud fod y daith i weld yn waeth na dringo Everest.
Roedd yn anhapus iawn hefo Mingmar gan nad oedd wedi egluro'n iawn iddo
sut daith oedd dringo'r mynydd. Dywedodd fod y graig llawer rhy anodd
i'w griw porthorion, sef y cogyddion a'r gweddill o'r criw oedd yn cario.
Dywedodd petai'r porthorion wedi llwyddo i fynd i "High Camp"
yna bydde nhw'n siwr o fod wedi dioddef ac wedi mynd i drafferthion
ar y ffordd yn ol. Roedd yn siwr fod y daith llawer anoddach na ddywedwyd
wrtho ef. (Doedd ddim eira pryd ddaru Mingmar ei ddringo o'r blaen)
Cychwyn
i lawr am Leddar tua 10.30 i gyfarfod Ceri, Alwen a Jeremy. Pawb yn
falch o weld ein gilydd eto. Ail adrodd stori ddoe. Roedd yn amlwg eu
bod wedi poeni amdanom allan ar y mynydd. Roeddynt yn ein disgwyl yn
ol neithiwr. Cael eu stori nhw sef Ceri ac Alwen yn mynd i lawr ei hunain,
bag Alwen yn rowlio i lawr yr ochr serth a'i dillad mesul un yn dod
allan o'r bag. Roedd y tri wedi gwneud ffrindie da efo perchnogion y
lodge. Cafwyd eu hanes yn treulio gyda'r nos yn y gegin o flaen tanllwyth
o dan a chael hanes y mab,Karma yn dringo ChuluW. tair mlynedd nol.
Ddaru lwyddo trwy wersylla ger yr ogof/craig a mynd yn syth o fanna
i'r copa ac yn ol i Leddar. (Tywydd da a dim eira ar y graig.). Cinio
da o chips ac wy, lyfli jybli. Falch o gael bwyd gan nad oeddwn wedi
bwyta bron i ddim ddoe, 1 Mars a 2 fisged a chawl cyn gwely. Gweld eryr
yn pasio'n agos. Nes i ddim cofio son yn gynt, sef ar ein taith i Leddar
ein bod wedi cyfarfod yak mawr wyneb yn wyneb bron a Kamal, John P a
Gwyn.Sylwais fod yr yak o ddifri ac yn ein meddwl ni ei fod am ymosod
arnom. Gwelais John P yn codi carreg ac yn gafael yn dynn yn ei ddwy
ffon cerdded. Pawb yn mynd heibio reit sydyn gan droi i sicrhau nad
oedd am ddod ar ein holau.
Talu
a ffarwelio agyda Mingmar, Lakman ac un o'r porthorion. Roedd Kamal
yn dweud ein bod yn siwr o gyfarfod a nhw eto yn Kathmandu.
Cychwyn
cerdded ymlaen am Thorung Phedi tua'r 2.00. Croesi pont bren hefo darnau
coll arni.
Cerdded i fyny'r allt ac eistedd i orffwys mewn llecyn braf a rhyw fath
o gaffi neu siop oedd yn gwerthu da das a bisgedi ac ati. Roedd dynes
y lle yn gwybod ein hanes yn iawn. Roedd Gwen, Hefin a John A wedi aros
i gael llymaid yno a dweud y byddan yn dod heibio mewn ychydig ddyddiau.
Cael croeso arbennig ganddi.
Ymlaen eto ar ochr afon a sylwi ar y tirwedd, yr ymylon serth a'r olion
tir lithriad. Gweld Yak wedi marw ar ochr y llwybr. Cyrraedd Thorung
Phedi 4.00 a chael ystafelloedd da hefo toiled ynddynt. Gofyn i Kamal
am fwced o ddwr poeth i ymolchi. Roedd croen fy mhen yn brifo wrth i
mi ei olchi (oeddwn wedi gwisgo cap gwlan neu het haul dydd a nos ers
dyddiau.)
Sortio
fy hun allan, sef y bagiau a'r dillad budr oeddwn wedi ei wisgo ers
y dechrau a'u rhoi mewn bag plastic a'i gau'n dynn. Swper swmpus mewn
lle cynnes. Trafod yfori ac amser codi. Penderfynu ar 4.00 fel amser
codi, brecwast 4.30, cerdded yn brydlon am 5.00. Jeremy a John am gychwyn
am 4.00 oherwydd brest drwg Jeremy.
Dydd Mawrth Ebrill 25
Y trecwyr
Diwrnod arall o symud ymlaen ychydig sef o Kagbeni i Jomson, disgyn
rhyw 100m a thaith o rhyw dair awr.
Cael fy neffro yn y bore rhwng pump a chwech gan glychau'r geifr yn
canu wrth i'w perchnogion basio fy ffenest ar eu ffordd o'r pentref
i fyny'r mynydd i bori am y dydd.Cychwyn o Kagbeni ychydig wedi 8.00
a theithio y rhan fwyaf o'r ffordd ar wely yr afon Thak Khola. Mynyddoedd
serth uchel ar y nail ochr i ni. Ar y chwith Annapurna a Tilicho, tra
ar y dde, copa Dhaulagiri, sydd dros 8000m, y seithfed mynydd ucha'
yn y byd.
Golyga hyn bod dyfnder y dyffryn o gopaon y mynyddoedd ar y ddwy ochr
i lawr i wely'r afon tua 51/2 kilomedr (3 milltir) gan ei wneud y ddyffryn
gyda'r dyfnder mwyaf yn y byd.
Credir bod y Dhaulagiri yn dal i dyfu tua 1mm y flwyddyn.
Cyrraedd
Jomson (2710m-8891tr) tua 11.00 o'r gloch.Dyma fan diweddu ein trec
ni o'r Annapurna Circuit gan y gobeithiwn fflio oddi yma i Pokhara bore
dydd Iau ar ol i'r criw dringo ail ymuno a ni fory.
Aros
y noson yn Hotel Himalayan Inn. 
Y
dringwyr
Ni chafodd John a Jeremy eu deffro tan 4.15 gan Bibi!! Brecwast brysiog
a chychwyn yn y tywyllwch i fyny llwybr serth am y Thorung La sef codi
o Thorung Phedi 4550m I 5.4km sef codi 850m.
Pasiwyd
ni tua hanner ffordd gan y sgwad hwyr.
Buom
yn ffodus iawn i weld olion y llewpard tua ½ ffordd i fyny, roedd
yn cerdded nol ac ymlaen o gwmpas y llwybr.
Gwelodd Bruce ysmotiau o waed o gwmpas yr olion.
Cafwyd gorfoledd o'r diwedd ar ol sawl copa ffals, o gyrraedd y Bwlch
oddeutu 9.30, sef 41/2 awr, sydd yn llawer gwell na'r amseroedd a geir
yn y llyfrau. Cafwyd te bendithiol a thynnwyd cannoedd o luniau. Roeddem
yn gallu gweld Chulu West, bron yn edrych lawr arno!,a sylwi ar y llwybr
a geisiwyd gennym.
Ar
ein chwith ar tua 6km roedd Thorung Peak ac ar y dde i ni fel roeddem
yn agosau at y Bwlch roedd Katung Kang, 6.4km. 
Braf
oedd meddwl ein bod yn gostwng a cholli 1.6km yr ochr hon, hyn yn golygu
5300 troedfedd sef dod lawr dwywaith o'r Wyddfa i Ben y Pas. Roedd y
tywydd yn hollol wahanol yr ochr hon, yn boeth a'r haul yn disgleirio-
dyna fo roedd yn nesu at ganol dydd- ond roedd y bore wedi bod yn erwin
iawn a gwynt main yn ein fferu.
Hanner
ffordd i lawr cawsom ginio dymunol yn yr haul a chael saib o 11/2 awr
- ac yfed cwrw, y cyntaf i'r rhan fwyaf ohonom ers bythefnos. Roedd
hwyliau da ar bawb gan ein bod yn gwybod fod y caledi drosedd bellach.
Aethom ymlaen wedyn dros bont crog diweddar a sylwyd ar flodyn lliw
glas ar y llawr, fel lili. Wrth gwrs bu raid cael y micro lensiau allan
I gael y llun gorau. Buan cyrhaeddom Teml Bwdaidd/Hindu a chael mynediad.
Gwelwyd
fur uchel gwyn a weiren bigog i gadw'r anwariaid lleol allan ond dan
arweiniad Kamal cawsom fynediad i'r Deml Sanctaidd hon
Yn y safle hwn cawsom weld Teml Uishnu, yma mae'r cysygredid yn dod
o'r graig ac mae hon yn ddarn diweddar ac yn perthyn i'r Hindu. Rhaid
i bererinion sydd wedi dod yma ymolchi dan 108 o bibellau dwr ger y
deml cyn bod ddigon glan i fynd i mewn.
Teml
y Jollo Muki Gompa. Mae'n debyg fod miloedd o Buddists yn cael taith
bererindod yma ac weithiau yn cymryd blynyddoedd i symud yn "orweddog"
tuag at y safle. Yma daw methan gyda'r dwr cysegredig ac mae'r fflam
ynghyn ers canrifoedd. B. Tilman yn 1950, oedd y Gorllewinwr cynta i
ymweld a'r deml hon- chafodd o ddim llawer o groeso rhag ofn iddo fynd
a'r fflam efo fo!! Daw'r dwr cysegredig allan o fuwch aur ger y drws.
Buom
yn cerdded am hanner awr wedyn o dod i'r pentref bywiog Muktinath gyda
stondinau, trydan,dwr glan ac yn y blaen. Cyrraedd gwesty y North Pole
tua 5.00, pnawn hamddenol ond dymunol iawn. Gwesty neis a chawod boeth,
golchi ngwallt, y gawod gynta ers deg diwrnod.
Dydd
Mercher Ebrill 26
Y trecwyr
Dydd y disgwyl. Yn ol y cynllun roedd y dringwyr I gyrraedd Jomson heddiw.
Aethom ni'n tri ddwy waith I lawr I ben arall y pentref yn y gobaith
o'u cyfarfod ond yn y diwedd, tra yng nghanol ein cinio hwyr, dyma eu
gweld yn brasgamu fyny'r brif ffordd yn edrych yn ddynion (a merched)
caled a dewr bob un. Balch dros ben i weld pob copa gwalltog ohonynt.
Y
dringwyr
Gadael Muktinath am 8.15. Cerdded trwy ardal amaethyddol, pobol wrth
eu gwaith, merched wrth y "looms'. Y llwybr/trac yn newid ac yn
mynd i lawr trwy wlad lluchiog anial i Kagbeni.Golygfeydd hollol wahanol
i'r dyddiau cynt.
Cael cinio mewn gwesty da yn Kagbeni ond cyn cinio ymweld a theml Bwdaidd
tua 600 oed ble roedd llyfr wedi ei ysgrifennu yn iaith Tibet yn yr
8fed neu 9fed ganrif. Gadael Kagbeni am 1.00 am Jomson.
Trac ddi-ddiwedd (gwell i feic mynydd) yn dilyn gwely'r afon Kali Gandaki
yr holl ffordd i Jomson. Cyrraedd am 3.15 Am 4.00 mynd i weld amgueddfa
Mustang oedd yn hynod ddiddorol.
Dydd
Iau Ebrill 27 Y cwmni unedig unwaith eto
Fedrai ddim dechrau son am heddiw heb rhoi gair bach i mewn am neithiwr.
Hon oedd ein noson ola gyda'r porthorion ac roedd yn rhaid dathlu yn
iawn! Pawb yn cwrdd yn yr ystafell fwyta ac yn yfed cwrw neu coke.
Morfudd yn gwneud anerchiad bach i ddiolch i'r porthorion am bob dim
a Kamal yn cyfieithu. Pob un yn cael ei "baksheesh". Wedyn
ar ol bwyd mwy o ddiod, miwsig, dawnsio a phawb yn troi i mewn yn barod
iawn i gysgu. Cyfrinach y noson- pwy ddaru gloi Bruce a Rhodri yn eu
lloft?
Codi
am 5.30 a brecwast am 6.00 gan fod eisiau hedfan i Pokhara ac mae gormod
o wynt i wneud hynny wedi canol dydd. Mae'n rhaid mai hwn yw un o'r
"flights" mwyaf trawiadol yn y byd. Yr awyren fach (25 sedd)
yn crafu i'r awyr ac yn troi i fflio lawr ddyffryn y Kali Ganaki Gyda
mynyddoedd enfawr Dalagiri ac Annapurna ar y nail ochr ar llall.
Y tirwedd yn glasu oddi tanom a'r awyren yn cael ei thaflu o gwmpas
llai wrth fynd am Pokhara ble roeddem yn glanio am 9.00am. Bws yn mynd
a ni'n syth i westy Moonlight Resort wrth ochr y llyn ble cawsom amser
i molchi ac ymlacio a chinio swmpus am ganol dydd. Wedyn roedd Kamal
wedi trefnu bws i fynd a ni i Devri's Falls a gwersyll ffoaduriaid Tibet
ble cawsom gyfle i'w gweld yn gwneud y carpedi ac yna cyfle i'w prynu
hwy. Dyma gychwyn o ddifri ar brynu yr holl bresante -mynd -adre fydd
angen ar ein parti ni. Swper dathliadol arall wedi ei drefnu ar lan
y llyn am 6.30 heno.
Gwener
Ebrill 28
Gadael Pokhara a hedfan nol i Kathmandu, taith dipyn brafiach na'r un
ddiwethaf, a chyrraedd yno 11.30 (25 munud). Byd hollol wahanol yn Kathmandu
erbyn hyn, pawb allan,ceir a beiciau modur, plant, pobl ac anifeiliaid
i gyd yn cystadlu am le ar y ffordd.
Nol i'r Manasulu ac ar ol cinio ysgafn Kamal yn trefnu i ni ymweld a
rhai o atyniadau'r ddinas.Y Monkey Temple yn gyntaf, teml hardd iawn
(bwdhaidd) a stondinau ymhob man. Pawb yn gwerthu yr un nwyddau, syndod
sut mae nhw'n gwneud pres o gwbl. Pawb yn cael eu dal gan y merched
yn trio gwerthu breichledau, "I'll give you a good price!"
Golygfa dda o'r ddinas, biti am yr holl sbwriel. Mwnciod wrth y grisiau
a Kamal yn ein rhybuddio i beidio eu tymentio, person wedi ei ladd yn
y gorffennol. 
Profiad
bythgofiadwy wedyn, reid taxi i Thamel. Dwn i'm sut y cyrhaeddodd yn
fyw. Pawb yn canu corn, ceisio pasio ei gilydd, car yn torri lawr a
chau'r ffordd a "potholes" anferth ymhob man. Dim diffyg blerwch
yn fanma!
Thamel,
yr ardal dwristaidd yn gwerthu pob math o nwyddau. Rhyw awr yna, Jeremy
oedd y prynnwr prysura o bell, stocio fyny ar anrhegion penblwydd i'w
wyresau, medde fo ond methu gwrthod y gwerthwyr del, medde ni. Bwyd
wedyn yn yr Everest Steak House. Noson dda iawn a bwyd blasus. Cyd-ddigwyddiad
o'r mwyaf oedd cyfarfod Klemmen yno, dyn o Slovenia oedd wedi rhoi cyngor
i Ceri ac Alwen ar lwybr da i fyny Triglav.
Cerdded
nol i'r gwesty, diod i orffen y noson ac yna gwely.
Sadwrn
Ebrill 29
Morfudd bant yn gynnar ar fotobeic Kamal i brynu 2 kurda "made
to measure" Ni'n hamddena yn yr ardd a'n traed yn y pwll nofio.
Bws mini i sgwar Durbar a gweld y casgliad o demlau hynafol yno a'r
gwerthwyr yn ein holi'n ddi-baid.
Pawb ond Jeremy yn eu gwrthsefyll yn llwyddiannus. Gyrru drwy'r ddinas
ac admygu glesni llachar y coed Jakaranda. Mynd at y Gompa mwya'n y
byd, cylch llachar wen a'r LLYGAD yn ein gwylio wrth i ni gerdded o'i
amgylch. Pryd o fwyd hyfryd ar ben to y bwyty, dan ymbarel, yn edrych
draw'n syth at y llygad. Cael Meze sef 5 pryd bach dwyreiniol, llysieuol.

Taith
bws llychlyd eto i fynachlog fodern bwdaidd Kapan. Cawson dywysydd fu
wrthi yn egluro hanes y Dalai Lama. Gofynnom yn ein hanwybodaeth, os
oedd hanes eto am ei ddilynydd. Cawsom ateb pendant sef gan fod y bedwaredd
Dalai Lama a r ddeg o hyd yn cerdded y ddaear, nid oedd pwynt dechrau
edrych amdano ar ei newydd wedd. Hynny yw rhaid iddo farw cyn y gall
ail ymddangos. Mwynhau cerdded o amgylch gardd braf y fynachlog. Roedd
cwpl o fechgyn tua with oed yn eu gwisg piws ac oren yn cael hamddena
fel 2 grwt cyn dychwelyd i'w dyletswydd mynachog. Golygfa hardd, dawel
uwchben y ddinas fudr swnllyd.
Ymlaen
i uchafbwynt y diwrnod sef swper ffarwelio yn nhy Kamal. Cawsom ein
cyfarch yn raslon iawn gan ei wraig Dippa, yn brydferth mewn kurda glas
golau. Tynnu'n 'sgidie a phawb i eistedd ar fatiau wedi eu gosod o amgylch
y waliau mewn stafell fechan. Y cwrw, Everest, yn cyrraedd a bu'n gwydrau
yn cael eu hail-lenwi drwy gydol y noson. Bibilal yn ymddangos i helpi
gyda'r gweini yn ol ei arfer. Ymddangosai fel petai'r gymdogaeth i gyd
yn galw mewn i gyfarch y pobl ddiarth, ac i helpi ei hunain i'r bwyd.
Cawsom bryd bach o sglodion a chyw iar yna pryd mawr o gyri cyw iar
a reis, i'w fwyta yn y dull Nepalaidd gyda'r llaw dde. I bwdin roedd
cacen penblwydd y mab hyna' wedi ei addurno'n ysblennydd. Daeth deg
o'i ffrindie i gael darn ohono gyda ni. Noson i'w gofio. Ni fedrai Kamal
a'i deulu wneud mwy drosom.
Sul
Ebrill 30
Taith hir adre.
Dyma
ragor o luniau gan Morfudd Thomas (clicier arnynt i'w chwyddo)

Mae
rhai lluniau yn Y Galeri ar gyfer
2006 hefyd