HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

De'r Rhinogydd 28 Ionawr


Ar fore oer a chlir, cyfarfu 28 (nefi blw!) o aelodau brwdfrydig yn y maes parcio bach yng Nghwm Mynach gyda'r bwriad o fynd am grib ddeheuol y Rhinogydd. Hyn, er i Gerallt P. ddweud y byddai yn -85 gradd C.

Rhannwyd yn ddau grwp, un dan arweiniad Myfyr Tomos a gymerodd yr hen inclen i'r gwaith mango yna ymlaen i'r Diffwys, Crib y Rhiw, Y Llethr, Bwlch Llyn Hywel a rhai i'r Rhinog Fach yna i lawr i Chwarel Cefn Cam ac yn ol i Gwm Mynach.

Gwnaeth y grwp arall, o dan arweiniad Alan Hughes (diolch Alan) yr un daith ond yn anticlocwyis. Cyfarfu y ddau grwp ar gopa'r Llethr i fwynhau y golygfeydd gwych.

Diwrnod gaeafol bendigedig !

Adroddiad gan Myfyr Tomos - yr arweinydd

Lluniau gan Myfyr Tomos a Dylan (6-10) ar Fflickr