HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Naw Nos Ola' 23 Medi


Dwsin o rai dewr ddaeth i Lanberis am ddau o'r gloch fore Sadwrn, Medi 23ain … bore sych, serog, tywyll … roedd yr arweinydd (MP) wedi dehongli fod cylch du llawn yn ei ddyddiadur yn dynodi lleuad llawn!

Roedd yn lleuad llawn wedi bod a mynd bythefnos ynghynt!

Elen a Maldwyn o Benygroes, Elizabeth o Landwrog, Alun a George o Gaernarfon, Ian o'r Felinheli, Bryn o Bwllheli, Eryl a Gareth Wyn o Benmachno, Digby a Rhodri o Ffostrasol a Siân o Gaerdydd.

Cychwyn o'r maes parcio ger Llyn Padarn, pawb hefo'i fflachlamp!
Dilyn llwybr Llanberis a chael hanesion difyr, wrth fynd , am y pentref a'i gymeriadau gan Alun Roberts. Toedd na ddim brys, gan na fyddai'n gwawrio tan chwarter i saith, felly dow dow a hi gan aros am baned (a mwy o hanesion) ger gaffi hanner ffordd.

Ymlaen i'r caddug a chwrdd a jac codi baw ar odre Allt Moses … gwaith cynnal a chadw ar y llwybr. Roedd hi'n dechrau cymylu erbyn i ni droi'r Clogwyn Coch ac yn y niwl y buom nes cyrraedd y copa am tua hanner awr wedi pump.

Roedd y gwaith dymchwel yr 'hofal' wedi dechrau a ffens uchel o gwmpas yr adeilad. Roedd na ddau dewr mewn pabell o flaen y drws ffrynt wrthi'n berwi dwr ar gyfer paned boeth cyn dechrau ar daith y pedwar copa ar ddeg! Fe arhosodd Elizabeth (i gysgu!) yng ngweddillion swyddfa'r gorsaf feistr tra'r aeth y gweddill ohonom rownd at y drws cefn i gysgodi.

Weithiau, trwy fylchau yn y cymylau cawsom olygfeydd rhyfeddol o glir o oleuadau pentrefi a lonydd Môn, Arfon a Pen Llyn. Tua hanner awr wedi chwech, i fyny i'r copa a ni … roedd na oleuni yn rhywle yn y dwyrain, ond er disgwyl tan wedi saith ni chawsom yr olygfa y gobeithiem ei gweld!

Lawr a ni, ac yn wir, erbyn cyrraedd tro Clogwyn Coch roedd na chydig o heulwen yn goleuo'r llethrau uwch y Nant.

Roeddem lawr yn Llanber erbyn y naw ac wedi ffarwelio aeth rhai ohonom am baned a brecwast i Pete's Eats!

Adroddiad gan Maldwyn Roberts

Dim lluniau! - Rhy dywyll, mae'n rhaid! (Gol.)