HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tryfan, Glyder Fach ac i lawr Y Gribin 22 Gorffennaf


Taith wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Clwb Mynydda Cymru ac Wythnos Gerdded Conwy oedd hon. Daeth criw da ynghyd. O'r Clwb Mynydda - Maldwyn, Ian, Morfudd, John Arthur, Lis, Tegwen a Medwyn (yr arweinydd); dau o ffyddloniaid o'r gorffennol, Huw ac Alwyn; a Tom, Yvonne, John, Wyn, Anwen, John, Now, Iwan a Geraldine (o Iwerddon).

Dechrau'r daith drwy sgramblo i fyny crib ogleddol Tryfan. Doedd rhai o'r criw erioed wedi bod ar dir mor greigiog â hyn o'r blaen a chlywyd ambell i ebychiad ar y ffordd i fyny. Cyrhaeddwyd y copa'n saff, ond doedd neb am fentro neidio o Adda i Efa.

Lawr wedyn i Fwlch Tryfan am ginio. Roedd Bristly Ridge (Crib Gwrychlyd? - Gol.) yn edrych yn drawiadol iawn o'r fan honno. Dilyn y wal i fyny a chroesi i'r chwith i fynd i fyny'r 'Sinister Gully' (sydd ddim cynddrwg ag y mae'r enw'n ei awgrymu) (Hafn Amheus? - Gol.). Bwrw ymlaen ar hyd y grib, dros y 'moto beic' chwedl Morfudd, a'r Great Pinnacle Gap (Bwlch y Pinacl Mawr? - Gol.). Erbyn inni ddod oddi ar y grib roedd pawb yn teimlo'n hen lawie ar sgramblo ac yn unfrydol eu bod nhw am fynd dros Gastell y Gwynt, nid o amgylch ei odre.

Troi i lawr ar hyd y Gribin, a mwynhau edrych yn ôl yn haul y prynhawn ar y cylch yr oedden ni wedi'i gwblhau.

Taith hyfryd, mewn cwmni da. Roedd nifer o ddysgwyr yn ein plith, a chafwyd digon o ymarfer i'r meddwl yn ogystal â'r corff.

Adroddiad gan Tegwen Williams

Lluniau gan Tegwen Williams ar Fflickr