|
Daeth
17 aelod ac un ci at ei gilydd ar ddiwrnod braf ym mis Ebrill am daith
o gwmpas Pedol Cwm Anafon. Wedi symud ceir i fyny ir maes parcio
uchaf yn Abergwyngregyn roedd gennym lwybr braf wrth ochr Afon Anafon
hyd at Lyn Anafon. Newid cywair wedyn a chodin serth at gopa Llwytmor
ac yna draw am Foel Fras, y pwynt uchaf ar y daith. O Foel Fras roedd
y daith i lawr allt bob cam gan fynd dros y Drum, Carnedd y Ddelw, Pen
Bryn-du, Foel Ganol a Foel Dduarth cyn disgyn yn serth iawn iawn i lawr
y llethr yn syth yn ôl at y ceir. Diwrnod pleserus iawn os
caled ar y pengliniau yn y diwedd!.
Adroddiad
Dilys Phillips
Lluniau
gan Aneurin Phillips
|
|