|
O'r
cychwyn cyntaf roedd penwythnos Llanwrtyd yn llawn addewid; gwesty cysurus,
taith heriol mewn ardal ddieithr a chyfle i aelodau'r de a'r gogledd gyfarfod.
Cawsom mo'n siomi ! Mae'r Neuadd Arms yn westy llawn cymeriad efo bwyd
blasus a gwasanaeth rhagorol ond gadael oedd yn rhaid yn gynnar bore Sadwrn
a gyrru drwy Abergwesyn i gyfeiriad Tregaron cyn cyrraedd Pontrhydfendigaid
ac Ystrad Fflur erbyn 9.00. Hwn oedd man cychwyn taith 38 km efo 1000
m o ddringo dros fryniau caredig, ond reit galed ar adegau yng ngwres
yr haul. O'r cychwyn doedd pawb o'r 21 ddim yn bwriadu gorffen y daith
gyfan ond diolch i drefniadau Iolyn roedd modd iddynt alw tacsi i Bont
ar Elen wedi cwblhau'r 20 km cyntaf. Ymlaen a'r gweddill ffyddlon efo'r
haul yn danbaid a chwilod coch hedegog yn gwmni lluosog. Croesi'r A470
wrth Bont Marteg gan ddilyn llwybr yr hen rheilffordd cyn dechrau dringo
llethr cefn y Gamallt. Erbyn cyrraedd pen Moel Hywel roedd y coesau'n
dechrau cwyno (fy nghoesau i beth bynnag !) ond roeddem yn brysur nesu
at y nod. Erbyn hyn roeddem ar dir dieithr iawn ond diddorol oedd dilyn
y map a chanfod y llwybr cywir. Cyrraedd Abaty Cwm Hir am 8.00. a dau
fws mini yn barod i'n cludo yn ol i Lanwrtyd at swper a noson o ymddiddan
difyr dros ben. Roedd mwy i ddod ! Bore Sul aeth 8 ohonom dan arweiniad
Iolyn eto i grwydro ochr ddwyreiniol Mynydd Epynt; trist oedd gweld yr
olion milwrol ym mhob man ond cawsom glywed y gog yn canu'n hwyr ger llaw
ac adnabod ychydig ar gynefin yr hen gymdeithas Gymraeg a gollwyd i'r
fyddin. Diolch yn fawr i Iolyn am drefniadau di-fai. Aethom adre wedi
cael profiadau newydd yng nghwmni cyfeillion newydd, a dyna sydd i'w ddisgwyl,
wrth gwrs, ar deithiau'r de !
Adroddiad
Llew ap Gwent
Lluniau
gan Llew, heblaw yr un cynta gan Anet o'r merched wrth yr arosfan bws
|
|