HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Clawdd Offa … Pedol Cwm Ewyas 15 Gorffennaf


Cafodd cangen y De ddiwrnod rhyfeddol o braf i wneud pedol Cwm Ewyas ar y ffin yng Ngwent ar 15 Gorffennaf. Rhyfeddol oherwydd mai niwl a glaw fu nodwedd teithiau Rhys Dafis bob tro! Ond y tro hwn, ni ellid fod wedi cael tywydd gwell.

Ar ôl cyfarfod ym maes parcio Abaty Llanddewi Nant Honddu [Llanthony], dyma ddringo'r llechwedd dwyreiniol at grib Darren Ddu. Roedd Cwm Ewyas yn hynod o hardd y tu ôl nni [llun 1].

Buom yn dilyn llwybr Clawdd Offa i'r gogledd-orllewin wedyn [llun 2] hyd at drwyn y Gelli. Roedd yr olygfa yno yn fendigedig, wrth edrych i'r dwyrain i gyfeiriad Henffordd, i'r gogledd tros ddyffryn Gwy a llwyfandir bryniog Powys, ac i'r gorllewin ar hyd talcenni'r Bannau. Roedd Pen y Fan a Fan Brycheiniog i'w gweld yn nhes y pellter tros ysgwydd y Twmpa [llun 3].

O drwyn y Gelli dilyn y clogwyn i'r de-orllewin, drwy Fwlch y Pererinion, dros y Twmpa, nes dod at y maen mesur ar ben Rhos Dirion - man ucha'r daith 713m. Troi yno am y de-ddwyrain, a dilyn y grib hir tros Tarren yr Esgob a Chwarel y Fan [llun 4].

Yn y fan hon, cafodd un aelod anffawd fach ddiraddiol, pan aeth ei 'blatypus' yn 'fflatypus', a ninnau'n bryderus fod ganddo broblem rheoli ei bladren. Gan fod awel garedig ar y grib, mi sychodd y gwlybaniaeth erbyn cyrraedd copa y Bal Mawr!

Wrth Bal Bach, dyma droi i lawr y nant serth drwy'r coed yn ymyl yr Abaty, ac yno cael llymaid haeddiannol yn y dafarn ar ben y daith. Ar awr a 18.5 milltir dan haul tanbaid, roeddem yn haeddu llymaid, ac mi ddiflannodd y cynta heb gyffwrdd yr ochrau! Tynnwyd llun cyn gadael, ond ni chafodd ei gynnwys yma rhag chwalu delwedd galed-fentrus broffesiynol y Clwb ...

Roedd un o'n ffyddloniaid pennaf yn eisiau oherwydd llawdriniaeth, sef Alun Voyle. Brysia i wella Alun. Roedd yna ormod o lusgo traed ...!

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Rhys Dafis a Guto Evans ar Fflickr