HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Yci 13 Rhagfyr


Pedwar gyrhaeddodd Rhiwlas ar bnawn Mercher digon garw - John Arthur, Gwyn Chwilog, Arwyn ac Anet. Gan ei bod yn amser cinio cyn cychwyn a'r tywydd yn ddiflas dyma fwyta'n brechdana o gwmpas y bwrdd yng nghartre Gwen efo potiad mawr o goffi. Gwaraidd iawn!

Heb fwy o esgus i loetran i ffwrdd a ni tros FoelyCi mewn gwynt oedd yn peri i ni afael yn ein gilydd rhag cael ein chwythu i ffwrdd. Mi wellodd petha wedyn wrth ddilyn hen lwybrau chwarelwyr difyr iawn a chyrraedd yn ôl cyn iddi dywyllu i fwynhau potiad arall o goffi gan Gwen.

Adroddiad Gwen Aaron