HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith o'r Eisteddfod: Porth Einion i Rosili 10 Awst


Deuddeg a ddaeth i gyfarfod ag Eryl ac Alun ym Mhorth Einion ar fore Iau'r Eisteddfod; ffyddloniaid y de a llond llaw o ogleddwyr mentrus! Taith ddiddorol a gwahanol iawn unwaith eto - dilyn y llwybr isel efo'r arfordir o Borth Einion i Rosili. Heb law am flasu rhyfeddodau'r tirlun cawsom ymweld a'r "Salt House" hynafol, pendroni ynghylch pwrpas gwreiddiol "Culver Hole" ac amseru'n berffaith i ddal y cyfnod byr rhwng llanw a thrai a oedd yn caniatau ymweliad a'r enwog ogof Paviland. Diolch i'r arweinwyr am ddiwrnod da.

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr