|
Ar
wythnos o dywydd crasboeth, di-awel roedd yr 11 ohonom a ymgasglodd yn
Rhyd Ddu yn go falch fod gwynt wedi codi erbyn bore Sadwrn i leddfu mymryn
ar y gwres. Er hynny roedd hi?n dywydd loetran a sawl saib am banad. Ar
y darnau sgramblo go "gyffrous" ar Fynydd Drws y Coed dewisodd
Gwyn, Clive, Morfudd a Sian sgrambl anos eto ar Graig Cwm Silyn tra'r
aeth y rhelyw: Iona, Lis, Rhiannon, Gwen, Ann, Bili, ac Anet ar hyd y
llwybr haws. Roedd dafnau glaw yn y gwynt cryf ym Mwlch Drosbern yn ein
hatgoffa nad doeth ydy mynd i'r mynydd heb ddillad glaw hyd yn oed yng
nghanol cyfnod anarferol o boeth ym Mehefin, ond dafnau yn unig gawson
ni drwy drugaredd. Diwrnod difyr, a thacsi Huw (a threfniant Cyngor Gwynedd
fod posib teithio o Benygroes i Ryd Ddu am £1 y person) yn gwneud
cyrraedd o un pen i'r llall yn gyfleus.
Adroddiad gan Anet
Lluniau
gan Gwyn
|
|