HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo 'Single Pitch' 5 Tachwedd


Gyda rhagolygon y tywydd yn ffarfiol, da oedd cael cyfarfod wyth o gyd aelodau brwdfrydig ger Llyn Padarn. Dreifio draw i Fachwen lle roedd Anita wedi gosod y rhaffau yn barod ar Graig y Llew. Cyfle wedyn i rai ddringo o'r newydd neu ail gydio mewn hen sgiliau. Myfyr a Gwyn yn dangos sut i arwain a gosod offer diogelu ac Anita ar y rhaffau sefydlog.

Ar ôl bore cyfan o ddringo ac abseilio roedd pawb yn ddigon hyderus i fentro i graig arall, uwch a mwy serth y tro hwn. Rhagor o ymarfer arwain ac eilio yng nganol prydferthwch lliwiau'r Hydref. Dim ond machlud yr haul yn rhoi terfyn ar y gweithgareddau.

Diolch i Anita am gyd drefnu'r diwrnod a gosod y rhaffau, i Morfudd, Janet, Gwyn, Rhodri, Myfyr a Maldwyn am eu cefnogaeth a chroeso cynnes i Joey fel aelod newydd.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Myfyr a Maldwyn Roberts ar Fflickr