|
Daeth
criw bach (ond dethol)o 7 at ei gilydd ym maes parcio Tafarn y Dragon's
Head yn Llangenny yn brydlon erbyn 9.30am (gan gynnwys 3 o Gogs sy wedi
gweld y goleuni a byw yn y De, un Hwntw afradlon sy'n gorfod byw bellach
yn Llanuwchllyn, a 3 Hwntw go iawn!). Roedd llawer gormod o falu c***u
ar y dechrau, ond tawelodd pawb erbyn cyrraedd copa Pen y Fal (Sugarloaf
i Bruce Lane), tua 11.00am. Tywydd perffaith (braf, oer, clir, dim mymryn
o wynt) a golygfeydd godidog dros y Mynyddoedd Duon, Bannau Brycheiniog,
a'r mor tu draw i Gasnewydd.
I lawr a ni i Fforest Coalpit ac i fyny eto i hen eglwys Partrishow -
wedi i Rhys Dafis helpu ffermwr cloff a ci defaid ddall gyda'u defaid
coll ar y ffordd. Ymweld a ffynnon sanctaidd y merthyr Issui ac wedyn
a'r eglwys fach brydferth yng nghanol y caeau (hen 'Rood Screen'o goed
derw a oroeosodd Oliver Cromwell a'i griw). Cinio yn yr haul ar hen fainc
cerrig ar bwys wal yr eglwys. Gadael tua 1.30 (mewn brys i gyrraedd y
dafarn i weld ail hanner y gem rhwng Cymru ac Awstralia) a dringo trwy'r
rhedyn a grug dros Crug Mawr ac i lawr tuag at Llanbedr. Bron neb i'w
weld ar wahan i griw o tua ugain beicwyr (oedd bach yn araf i ni). Cyrraedd
y Red Lion, Llanbedr i ffeindio criw mawr o grysau coch o flaen y teledu
(ac yn crys bach aur a gwyrdd yn y gornel!). Cwrw a chwmni da - a'r ail
hanner yn ei grwnswth (Doedd yr un gynta ddim cystal beth bynnag!).
Gadael am 4.30 am hanner awr hamddenol yn y cyfnos ar hyd glannau'r afon
Grwynne yn ôl i'r ceir. Gorffen am 5.00.
Adroddiad gan Richard Mitchley.
Lluniau
gan Llew ap Gwent
|
|