HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo ar Tryfan Bach 4 Mehefin


12 o aelodau'r Clwb yn ymgynull wrth droed Tryfan Bach, dyffryn Ogwen, ar ddiwrnod bendigedig. Criw cymysg o ran profiad dringo - rhai wedi gwneud tipyn o'r blaen, amryw yn newydd i ddringo ond yn awyddus i ddysgu.

Sesiwn 'dosbarth' gynta, i atgoffa (neu ddysgu am y tro cynta) am y galwadau dringo, sut i osod ger diogelwch, gosod angorion (belays) ayb. Y ddau drefnydd yn gwisgo'i hetiau Tim Achub ac yn siarsio pawb i ddefnyddio helmet.

Cyfle i roi cynnig wedyn ar amryw o'r dringfeydd. Llongyfarchiadau i Llew ac Alwen am arwain, gyda Myfyr wrth law i gadw llygad ar bethau. Gwyn yn ennill y wobr am y tangl rhaffau gorau!!

Adroddiad gan Gwyn Roberts & Myfyr Tomos

Lluniau gan Myfyr Tomos & Nia (Port) Williams ar Fflickr