Hafan

Y Clwb

Rhaglen
gyfredol

Teithiau
a
digwyddiadau

Ffurflen
ymaelodi

Rhagolygon
tywydd

Dolenni i
safloeoedd
diddorol
eraill

Oriel y Clwb

Offer i'w
logi

Mynyddiadur

Cysylltu â ni

Erthyglau
Summit

Dogfennau'r Cyngor Mynydda Prydeinig

  Y Dduallt ger Rhydymain Mai 3ydd 2006
(trefniant preifat)















Taith ar y 3ydd o Fai oedd hi, a John yn gwrthod dweud i ble 'roeddem yn mynd. Pengaled fel ag erioed. Parcio uchlaw Hengwrt, Rhydymain a dilyn Afon Eiddon trwy Gyfyng y Benglog. Golygfa dda tuag at Y Gader o'r bwlch yma >



Mae'r afon yn llifo'n syth bin heibio i Hafoty y Benglog a thrwy ffenest yr adfail gwelir Bryniau Cogau >









Waun y Griafolen ydy'r eangder sy'n ymestyn tua'r gogledd >





Yno wrth droed y Dduallt mae'r mymryn o adfail lle mae tarddiad Afon Dyfrdwy, a dyna lle mae John! >




Clip go serth o ddringo i gopa'r Dduallt wedyn, >




Dirgelwch arall!
,yn y goedwig ger Ty Newydd y Mynydd oedd y bocs yma. Math o hidlydd oedd y darn gwyn, mesur glaw asid efallai? Cafwyd gwledd o fyrgars ar Fryniau Cogau, ond clywyd mo'r gog. >



Ond fe ddaeth y 'deryn mawr arall 'ma heibio, pwy sy'n adnabod y ffarm?
>
(Ateb: Cae Coch, Rhydymain ydy'r ffarm, cartref Alun Elidyr)


Adroddiad a lluniau gan Gerallt Pennant


Noddir
gan:



Llety ar
y wê gan:

Diweddarwyd gan y gwefeistr: 11/5/07 11:08