|
Bore
braf, heulog yn yr Rhewl, Llangollen - gwynt a glaw yn Eryri! Ond lle
roedd ffyddloniaid arferol y Clwb ? Pump ohonom yn unig, Dyfir, Morfudd,
John Arthur, Gwyn a fi ddaeth at lannau'r Ddyfrdwy ar fore Sadwrn, Rhagfyr
2ail, ond am ddiwrnod da! Golygfeydd ysblennydd, lliwiau'r hydref, gwynt
gaeafol ac ambell gawod dila. Taith fer, heibio Chwarel y Berwyn dros
Moel y Gamelin, Moel y Gaer a Moel Morfydd (roedd yn rhaid i Morfudd ddod
ond oedd!) ac i lawr i dafarn Yr Haul am ddiod bach wrth y tan
cyn troi am adre. Unig fai y daith hon yw'r erydu erchyll gan feiciau
modur a cherbydau gyriant pedair olwyn ar hyd y gefnen, ond roedd yn daith
dda, er mai'r arweinydd sy'n dweud!
Adroddiad
a lluniau gan Llew ap Gwent
|
|