HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arenig Fawr a Moel Llyfnant 19 Tachwedd


Diwrnod y cyfarfod blynyddol a thywydd perffaith at gerdded pedol Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Daeth deg ar hugain at geg ffordd Llyn Arenig ar fore oer a hynod o glir; rhanwyd yn ddwy garfan gan adael i'r criw cyntaf gychwyn dan arweiniad Myfyr Tomos a ddewisodd lwybr Bryn Dyfrgi o'r llyn i fyny at Fwlch Blaen y Nant. Wedi sefyll pum munud yn yr oerfel aeth Llew ap Gwent a gweddill yr aelodau i fyny at y llyn ac ymlaen tua'r copa ar hyd ysgwydd y Castell. Dilynwyd yr un patrwm am weddill y diwrnod ac roedd yn ddull effeithiol o osgoi teithio'n fyddin dros y copaon! Hyd y daith oedd 16 km a chymrodd chwe awr i'w chwblhau efo llawer egwyl i fanteisio ar y tywydd tynnu lluniau. Diwrnod rhagorol a pharatoad ardderchog ar gyfer y swper a oedd i ddilyn yn y Llew Gwyn. Diolch i Wersyll yr Urdd Glanllyn am gael lle i newid at y swper wedi'r daith.

Lluniau gan Iolo (apG) ar Fflickr