HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chwarel Dinorwig 7 Rhagfyr


 

Cychwyn am 10:30 a.m. o Amgueddfa Lechi Genedlaethol Cymru Llanberis. 11 yn bresennol, sef Annet, Gwyn Chwilog, John Parry, Port, John Parry, Llanfairpwll, James Marshall, Haf Meredydd, Rhiannon Humphreys Jones, John Port, John Arthur, Rodney, Alun Gelli arweinydd.

Cafwyd taith ddifyr ddiddorol – y gŵyn bennaf oedd fod yr arweinydd yn credu ei fod yn dal yn bennaeth ysgol. Galw yn chwarel Vivian cyn cymeryd y llwybr igam-ogam. Mynd heibio Barics Môn cyn stachu i fyny i`r lefel nesaf. Golygfeydd trawiadol o Bentref Llanberis. Mynd i waelod llwybr llwynog cyn mentro i un o`r twneli sy`n y cyffiniau. Cinio o dan bont yna daeth y glaw a broffwydwyd.

Gostegodd hwnnw, yna ymlaen i waelod Dinorwig – ymweld a chofeb newydd i`r chwarelwyr. Yna ymlaen cyn ail ymuno a Pharc Padarn. Mynd heibio ysbyty y chwarel cyn cael croeso arbennig yn yr Amgueddfa. Gweld ffilm, cael arddangosfa ar sut i hollti llechi cyn cael paned yng Ngaffi`r ffowntan. Pawb yn werthfawrogol a`r arweinydd yn falch na chollwyd neb ar y daith.

Adroddiad gan Alun Roberts, arweinydd y daith