HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa o Rhyd Ddu 4 Awst


Ymgasglodd criw dethol o'r rhai oedd wedi cael digon o fod ar faes y Steddfod ar faes parcio Rhyd Ddu, ac oddi yno - dan arweiniad George Jones - aed am gopa'r Wyddfa. Er gwaethaf rhagolygon tywydd llai na pherffaith cafwyd ambell olygfa o'r copa cyn dilyn llwybr y Snowdon Ranger am i lawr. Dilynwyd arweiniad Alun Roberts ar draws y corsydd yn ôl i faes parcio Rhyd Ddu. Diwrnod difyr.

Lluniau gan Iolo (apG) ar Fflickr