{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Awst - Rhagfyr 2023

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Mae arweinyddion yn cadw’r hawl i newid dyddiadau teithiau o’r dydd Sadwrn i ddydd Sul a vice versa, weithiau oherwydd y tywydd neu amodau/digwyddiadau eraill. Byddan nhw hefyd angen gwybod rhif ffôn ac enw cyswllt mewn argyfwng. Gwahoddir y rhai sydd am ymuno â’r teithiau rannu gwybodaeth, yn gyfrinachol, gyda’r arweinydd am unrhyw gyflwr meddygol os y bydd hynny o help iddyn nhw mewn argyfwng yn ystod y daith.

Mae’r Clwb wedi graddio teithiau, o fis Medi ymlaen, i adlewyrchu natur eu her. Bydd yr eicon a fydd yn cyd-fynd â lefel yr her yn ymddangos gyda disgrifiad pob taith (drwy clicio/cyffwrdd yr eicon gallwch weld y graddfeydd yn llawn). Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.


Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'

Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA



Mercher 9 Awst, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
Taith Goffa Gareth Pierce – Yr Eifl
9.45 10.00
Maes parcio rhwng Llithfaen a Nant Gwrtheyrn (SH 353441)

Cychwyn o’r maes parcio ac anelu am Dre’r Ceiri (485 m) lle ceir yr enghraifft orau o fryn gaer o’r Oes Haearn ym Mhrydain. Ymlaen i gopa Garn Ganol (pwynt uchaf y daith – 564 m). Disgyn wedyn i Fwlch yr Eifl cyn dringo’r trydydd copa sef Garn Fôr (Mynydd gwaith) - 444 m. Disgyn yn ôl i‘r bwlch a gwneud ein ffordd yn ôl i’r maes parcio ar hyd llwybr yr arfordir. Taith o tua 4.5 milltir. Os oes awydd, gellir ymestyn y daith a disgyn i lawr o’r bwlch i Nant Gwrtheyrn a dod yn ôl i fyny drwy Gallt y Bwlch a fydd yn ychwanegu oddeutu 3.5 milltir i’r daith.
Taith o tua 3 awr ond yn hirach os caiff ei hymestyn. 

Iolo Roberts


Sadwrn 12 Awst
Darlith Goffa Llew ap Gwent gan Catrin Meurig
Pabell Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

1130
 
Dewch i wrando ar Catrin Meurig, un o aelodau Clwb Mynydda Cymru, sy’n mynd i rannu ei phrofiadau am ei hanturiaethau.  Er enghraifft, mae Catrin wedi cystadlu yn y Marathon Des Sables, râs a ddisgrifir fel yr un galetaf yn y Byd a’r râs TDS gan Ultra Trail du Mont Blanc sydd bron i gan milltir a 30,000 o droedfeddi o esgyniad.  Roedd y Babell Gymdeithasau dan ei sang ar gyfer darlith y Clwb yn Nhregaron, felly cyrhaeddwch mewn da bryd i sicrhau lle.


Sadwrn 19 Awst ***Gohiriwyd tan yr 20fed
Sgramblo ar y Gribyn a’r Lliwedd
9.00 9.15
Parcio rhad ac am ddim yn un o’r cilfannau sydd ar ochr Conwy o’r ffin sirol yn ymyl  Pen-y-Gwryd a chyfarfod o flaen y gwesty o’r un enw (SH 660 557).

 Cerdded i Ben- y-Pass a dilyn llwybyr y Mwynwyr hyd nes cyrraedd Llyn Glaslyn.  Sgrialu gradd 1 i fyny’r Gribyn i Fwlch y Saethau a sgrialu pellach hamddenol wedyn i gopa’r Lliwedd.  Cerdded ymlaen dros Gallt y Wenallt cyn disgyn yn serth at Bwerdy Cwm Dyli a dilyn y llwybr yn ôl i Ben-y-Gwryd.

Cerdded 14 km/9 milltir ac esgyniad o 1040 m/3400 troedfedd.

Trystan Evans


Sadwrn 26 Awst
Moelydd yr Wyddfa
9.15  9.30
ger siop Joe Brown, Llanberis.

Cerdded i fyny Moel Eilio a thros gopaon Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion, yna i lawr i Gwm Brwynog ac yn ôl i Lanberis. Taith hamddenol. 15 km/9 milltir a 990 m/3250 o droedfeddi o ddringo.

Anna George


Sadwrn 2 Medi
Graig Fawr a chopaon eraill
9.30 10.00
Maes parcio yn ymyl Gwesty Sant Beuno, Clynnog. SH 415 497.

Taith sy’n ymweld â chopaon Bwlch Mawr, Pen y Gaer, Gyrn Ddu a Gyrn Goch. Tua 15 km /9 milltir ac esgyniad o tua 650 m/2150 troedfedd.
Gradd 2
Sandra Parry
 
Keith Roberts  


Sadwrn 9 Medi
Cwm Ystradllyn
9.30 9.45
Ger argae Llyn Cwmystradllyn  SH55664.

Cylchdaith heibio Caerfadog ar hyd hen lein fach i Gwm Pennant. Cwm Llefrith i Fwlch Cwm Meillionen a chopa Moel Hebog.

Gan ddibynnu ar y tywydd a dymuniad pawb - dewis i fynd lawr a thros/heibio Bryn Banog i Fwlch Cwm Oerddwr, heibio chwarel Gorseddau neu os bydd y tywydd yn ddrwg, mynd yn syth i lawr o'r copa uwchben hen bentref chwarelwyr "Tre Forys" a chael paned a chacen yn Nhŷ Tê Tyddyn Mawr. Dim llawer o le parcio, gwell rhannu ceir. Taith o 12.5 km/8 milltir ac esgyniad o tua 760 m/2500 o droedfeddi.
Gradd 3
Morfudd Tomos 


Mercher 13 Medi
Cylchdaith Dolwyddelan
9.45 10.00
Maes parcio stesion Dolwyddelan SH 737521 – tál dewisol o £1, neu ar Stryd y Bont, cyn cyrraedd yr orsaf.

Cerdded hamddenol ar Sarn Helen gydag esgyniad gweddol serth i gopa Pen y Bennar cyn disgyn yn raddol at orsaf Pont Rufeinig, ymlaen at y castell cyn dychwelyd i’r pentref. 7 milltir gydag esgyniad o 984 troedfedd / 300 m
Gradd 1
Nia a Winnie


Sadwrn 16 Medi
Y Garn (Rhinogydd)
9.15 9.30
Cyfarfod ym maes parcio’r Parc sydd gyda thoiledau (SH730 233).

Wedi croesi’r ffordd fawr, cerdded yn serth ar ffordd cyngor i gyrraedd hen waith aur Cefn Coch. Wedi cerdded heibio’r lefel uchaf o’r gwaith bydd y tir gwelltog yn newid yn dir mwy garw wrth ddringo’n uwch. Wedi cyrraedd y copa bydd golygfeydd arbennig yn eich disgwyl gan gynnwys aber y Fawddach, y Rhinogydd a mynyddoedd de Meirionnydd. Dod lawr wedyn ar hyd grib lydan am Foel Isbri, uwchben Llanelltyd. Troi i ddilyn llwybrau yn ôl am Ganllwyd; rhai trwy goedwigaeth ac eraill dros dir agored. Taith o rhyw 19 km/12 milltir a thua 700 m/2,300 o droedfeddi o godi.
Gradd 2
Eirlys Wyn Jones 


Sadwrn 23 Medi
Glyderau
8.30
Wrth yr arhosfan bysus, Sgwâr Fictoria, Bethesda – SH 622 668 - i ddal y bws T10 i Bont y Benglog, Ogwen. Parcio rhad ac am ddim ym maes parcio Pantdreiniog, Bethesda SH 623 668 – i fyny’r allt, gyferbyn â Neuadd Ogwen.

Dilyn y llwybr at Lyn Bochlwyd cyn sgrialu - Gradd 1 - i fyny’r Gribin a cherdded draw i gopa’r Glyder Fawr. Ymlaen at gopa’r Garn a dilyn y grib uwchben Nant Ffrancon dros gopaon, Foel Goch, Mynydd Perfedd, Carnedd y Filiast a’r Fronllwyd cyn disgyn drwy Chwarel y Penrhyn a dilyn Lôn Las Ogwen yn ôl i Fethesda. 17 km/11 Milltir ac esgyniad o 1179 m/3871 o droedfeddi.
Gradd 5
Steven Williams 


Sadwrn 23 Medi
Taith Bannau Sir Gar

9.00
Maes parcio di-dal Coedwig Glasfynydd ger Pont ar Wysg SN 82019 27129
What3Words: ticket.shadowing.glassware.

Cerdded lan i Bannau Sir Gar (Fan Foel) o'r gogledd. Tua 22 km.
Cysylltwch â Simeon os am ymuno.
Gradd 2
Simeon Jones


Sadwrn 30 Medi
Tarennau Meirionnydd
9.15 9.30
Maes parcio Gorsaf Abergynolwyn, tua hanner milltir i’r de-orllewin o’r pentref – SH672065. (Ffi parcio £1).

Tarren Hendre a Tharren y Gesail – taith 36 Copaon Cymru. 17 km/11 milltir a 895 m/2950 o droedfeddi o ddringo.
Gradd 3
Dilys ac Aneurin Phillips


Sadwrn 7 Hydref
Pedol Cwm Pen Llafar
9.00 9.15
Maes parcio Pantdreiniog, Bethesda SH 623 668.

Uwchben Stryd Fawr Bethesda, i fyny'r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen ac i’r dde. Cwm Pen Llafar, Y Grib Lem (sgrialu gradd 1), Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn a’r Elen. I lawr yn serth i Foel Ganol, Braich y Brysgyll a heibio Fferm Gwaun y Gwiail. Tua 19 km/12 milltir gyda 1114 m/3665 o droedfeddi o ddringo. Peint yn Nhafarn y Siôr i orffen.
Gradd 5
Chris Humphreys


Sadwrn 14 Hydref
Cylchdro Cwm Penamnen
9.15 9.30
Maes parcio ger stesion Dolwyddelan SH7377-5216 (am ddim, gyda thaliad gwirfoddol o £1, er budd Menter Siabod, os dymunir, fel arall, digon o le parcio ar Stryd y Bont, cyn cyrraedd y stesion).

Cerdded hamddenol ar Sarn Helen mewn i Gwm Penamnen, cyn codi ar lwybr eitha serth at odrau Pen y Bennar. I fyny ysgwydd Moel Penamnen, at y copa. Anelu i lawr ysgwydd ddwyreiniol Moel Penamnen a cherdded dros Moel Bowydd at Dramffordd Rhiwbach. O Lyn Bowydd, anelu am gopa Graig Ddu. Yn ôl i lawr ochr ogledd-ddwyreiniol Graig Ddu at y dramffordd, yna drwy hen chwarel Cwt y Bugail, ac ymlaen i gopa’r Ro Wen, cyn dychwelyd i Ddolwyddelan.

19 km/12 milltir ac esgyniad o 1000 m/3,600 o droedfeddi, tua 6 awr. Cyfle am ddiod yn Nhafarn Y Gwydr i ddarfod!
Gradd 3
Erwyn Jones


Mercher 18 Hydref
Pier Bangor i Aber Ogwen. Llwybr arfordir newydd   
9.45  10.00
Maes parcio Pier Bangor SH585733, £1.50, neu cymerwch fws.

Cerdded drwy Hirael ac ymlaen at Borth Penrhyn, wedyn ar ran newydd o’r llwybr arfordir ar hyd y Fenai heibio Castell Penrhyn i Aber Ogwen a gwarchodfa natur Aber Ogwen. Glas y dorlan i’w weld yn rheolaidd. Yn ôl i pier Bangor, efallai ar fws rhan o’r ffordd. Panad ar gael ar y pier, mynedfa 50c. Tua 6 milltir. 
Gradd 1
Gwen Richards


Sadwrn 21 Hydref
Crib Nantlle
08.45 – 09.00
Gorsaf Rheilffordd Rhyd Ddu SH571 525.

Croesi’r ffordd a dilyn y llwybr at waelod y Garn a dringo’n serth i gyrraedd y copa. Dilyn y grib i ben Mynydd Drws y Coed efo ychydig bach o sgrialu hawdd gradd 1 ac ymlaen wedyn am gopa Trum y ddysgl. Dilyn y llwybyr i gopa Mynydd Talymignedd cyn disgyn i Fwlch Drosbern ac ymlaen am Graig Cwmsilyn. Y bwriad ydy dychwelyd i Ryd Ddu trwy Fwlch y Ddwy Elor wedi disgyn i lawr Cwm Dwyfor o Fwlch Drosbern. Neu ymestyn y daith a cherdded ymlaen i gopa’r Garnedd Goch cyn dychwelyd yr un ffordd i Fwlch drosbern ac i lawr. Am adra i Ryd Ddu drwy’r chwarel, Bwlch y Ddwy Elor a’r goedwig. Tua 18 km/11 milltir ac esgyniad o 1200 m/3937 o droedfeddi, tuag 8 awr.
Gradd 4
Trystan Evans


Sadwrn 21 Hydref
Dyffryn Teifi
9.15 9.30
Maes parcio ynghanol Castell Newydd Emlyn( CG SN 306 406 ). Bydd angen talu i barcio gyda arian parod.

Dilyn yr afon Teifi ar ei glan gogleddol hyd at Cenarth gan ddychwelyd ar ei glan deheuol. Tua 10 milltir.
Gradd 2
Meirion Jones.


Sadwrn 28 Hydref
Mynydd Moel a Chadair Idris
9.15    9.30
Maes Parcio (toiledau a thalu) Minffordd SH 732 115.

Cerdded y llwybr sydd o dan y ffordd fawr i fyny Cwm Rhwyddfor tuag at Fwlch Llyn Bach (neu Fwlch y Tri Graienyn). O’r gilfan, dringo’n serth i fyny ysgwydd Mynydd Gwerngraig ac yna ymlaen dros Gau Graig a Mynydd Moel i Ben-y-gadair. Dychwelyd ar hyd Craig Cau a lawr llwybr Minffordd. 12 km/7.5 milltir a 900 m/2970 o droedfeddi o ddringo.
Gradd 3
Eryl Owain


Sadwrn 4 Tachwedd
Cylchdaith Llaethnant i gopa Aran Fawddwy
9.15 9.30
Cerddin, Blaen Mawddwy SH908204

Sgrialu gradd1 fyny Tap Nyth yr Eryr (gellir ei osgoi) i gopa'r Wenallt. Ymlaen dros Esgeiriau Gwynion a Moel Hafod Fynydd at Creiglyn Dyfi cyn dringo'n serth i gopa Aran Fawddwy. Dychwelyd dros Dyrysgol a Moel y Clochydd i'r man cychwyn. 18 km/11 milltir a 1100 m/3600 o droedfeddi o ddringo.
Gradd 4
Tegwyn Jones


Sadwrn 11 Tachwedd
Taith y Cyfarfod Blynyddol
O Ben y Gwryd, dros Moel Siabod i Fetws y Coed
7.50 08.05Maes parcio tu ôl i westy y Royal Oak/Siop Cotswold am 7:50 i ddal y bws S1 am 08:05 o’r safle bysus sydd rhwng Siop Cotswold a’r Swyddfa Bost/Londis (SH 794 564) i Ben y Gwryd.

Cychwyn cerdded o Ben y Gwryd tua 8:30 a dringo i fyny i Fwlch Rhiw’r Ychen cyn dilyn y fraich i gopa Moel Siabod. O’r copa dod nôl i’r gorllewin ychydig cyn dilyn y llwybr sydd o dan y Ddaear Ddu i Lyn y Foel. Mae’r llwybr yma’n eithaf garw efo peth sgramblo hawdd dros gerrig mawr. O Llyn y Foel dilyn y llwybr i lawr trwy’r ceunant, eto peth scramblo hawdd, cyn disgyn lawr i’r coed. Wedyn dilyn amrywiaeth o lwybrau dros rhostir a thrwy’r coed yn ôl i Betws ond cerdded hawdd ar y cyfan. Tua 20 km/12.5 milltir a 870 m/2860 o droedfeddi o ddringo, tua 7-8 awr.
Gradd 3
Dwynwen Pennant


Sadwrn 11 Tachedd
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Clwb Mynydda Cymru
Gwesty'r Royal Oak, Betws y coed
18.00
Cinio Blynyddol i ddilyn.
Iolo Roberts
07854 656351 ioloroberts289@btinternet.com

Dogfennau ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol
Agenda Cyfarfod Cyffredinol 2023
Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Tachwedd 2022
Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol
Adroddiad y Trysorydd (1)
Adroddiad y Trysorydd (2)
Adroddiad yr Ysgrifennydd Gweithgareddau
Adroddiad Ysgrifennydd y Wefan


Mercher 15 Tachwedd
Bontddu
10.30 10.45

Safle parcio Farchynys, rhyw hanner milltir i’r gorllewin o Bontddu [SH661186] (Gofal- os yn dod o gyfeiriad Bontddu, mae’r fynedfa’n anodd i’w gweld a does dim arwyddion iddi).

Cerdded i fyny’r llwybr ceffyl am Gaerdeon, heibio Bwlch yr Ysgol ac i fyny am Banc y Frân. Dilyn yr hen ffordd am y gorllewin ac i weld  Cerrig y Cledd yn y goedwig cyn dychwelyd i Farchynys.

Rhyw bedair awr o gerdded, ar hyd llwybrau, ffyrdd coedwig a ffyrdd tarmac.  Gall fod yn wlyb o dan draed mewn mannau, ac mae ambell i le caregog, felly ffon/ffyn yn ddefnyddiol.
Gradd 1
Raymond Griffiths



Sadwrn 18 Tachwedd
Llwytmor, Foel Fras a Charnedd Gwenllian
9.00    9.15
Maes parcio Pant Dreiniog, Bethesda SH 62359 66802.

Cerdded trwy Gerlan a thros gopa Gyrn Wigau ac anelu am Bera Mawr. Ymlaen wedyn rownd topia Cwm Afon Goch i gopa Llwytmor ac yna troi i gyfeiriad y de-ddwyrain i gopaon Foel Fras a Charnedd Gwenllian cyn gostwng lawr am Bethesda.
20 km/12 milltir ac esgyniad o 1,100 m/3,600 o droedfeddi.
Gradd 4
Matthew Williams


Sadwrn 18 Tachwedd                  
Cylchdaith Bannau Sir Gar
9.15  9.30
Pont ar Wysg (CG SN820 271).

Teithio tuag at Bannau Sir Gar heb ei dringo ond yn hytrach crwydro i gyfeiriad tarddiad yr afon Wysg gan anelu at Llyn y Fan Fach. Hyd y daith tua 10 milltir.
Gradd 2
Guto Evans


Sadwrn 25 Tachwedd
Moel Hebog
9.15 9.30
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddgelert ger yr orsaf rheilffordd (bydd angen talu) SH587481.

Dringo o Feddgelert i gopa Moel Hebog (783m) a disgyn yn serth wedyn i Fwlch Meillionen. Yn ein blaenau dros Foel yr Ogof (655m) a Foel Lefn (638m) cyn mynd i lawr i Fwlch Cwm Trwsgl. Gwneud ein ffordd yn ôl i Feddgelert ar hyd y llwybrau drwy’r goedwig a Lôn Gwyrfai. Cerdded 12 km/7.5 milltir ac esgyniad o 915 m/ 3002 o droedfeddi.
Gradd 3
Iolo Roberts


Sadwrn 2 Rhagfyr
Taith y Gwawrio, Moel Siabod
05.10 5.30 [Iechyd a diogewlch a chadarnahau’r Offer Cywir: 05.20 - 05.30. Cychwyn: 05.30]
Ar ochr yr lôn yn y gilfan uwchben Llynnau Mymbyr wrth ymyl Plas y Brenin ar yr A4086 SH 71570 57840.

Cychwyn dros Afon Llugwy ger Plas y Brenin, yna i fyny drwy'r coed a dilyn y llwybr i’r copa i wylio’r wawr gan gyrraedd yno rhwng 7.30 a 7.45. Wedyn yn ôl i’r man cychwyn, a brecwast yng Nghaffi Siabod, Capel Curig (dewisol). Bydd angen lamp pen a batris sbâr, dillad cynnes ac addas i dywydd geafol Eryri. Hefyd os yw’r tywydd yn aeafol, pigau bach neu bigau mawr (crampons), sbectol eira (goggles) a chaib rhew. 10 km/6 milltir ac esgyniad o 872 m/2867 o droedfeddi.
Gradd 4
Keith Roberts


Mercher 6 Rhagfyr
Nefyn - Taith Dathlu'r Dolig
9.45 10.00

Maes parcio Gwesty Bryn Noddfa, Morfa Nefyn (SH291400 ar y B4412 sy’n dod o gylchdro Bryn Cynan am Forfa Nefyn).

Taith hamddenol hyd lwybrau cyhoeddus draw at droed Garn Boduan gan gylchu’n ôl trwy dref Nefyn ar hyd Lwybr yr Arfordir.  Rhyw 4.5milltir.
Gradd 1
Gwenan Roberts

I’r rhai sy’n dymuno hynny, bydd bwffe 2 gwrs Nadoligaidd wedi ei drefnu ar ddiwedd y daith ym Mryn Noddfa am bris o £22.
Os ydych yn dymuno ymuno yn y wledd, anfonwch yr arian erbyn 29/11/23


Sadwrn 9 Rhagfyr
Pen y Fâl
9.15 9.30
Maes Parcio Crughywel – tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC.  CG SO 218 184.

Tua 18 km/11 milltir gyda esgyniad o 640 m/2100 o droedfeddi. Cinio yn y Bear i ddilyn gyda’r hwyr os dymunir.
Gradd 2
Richard Mitchley


Sadwrn 9 Rhagfyr
Foel Fras a Drum
08.45 09.00
Maes parcio wrth droi oddi ar yr A55 yng ngwaelod Abergwyngregyn SH 655 728.

Dilyn y ffordd trwy’r pentre cyn ymuno â Llwybr y Gogledd. Troi i’r dde i gyfeiriad Llyn Anafon. Dringo’n serth o lannau’r llyn i gopa Foel Fras ac wedyn dychwelyd dros gopa’r Drum a chopaon Pen Bryn Du, Yr Orsedd, Foel Ganol a Foel Dduarth a dilyn y ffordd Rufeinig yn ôl. Rhannau dros dir garw, di-lwybr a gall fod yn wlyb dan draed mewn mannau. Tua 18 km/11 milltir ac 800 m/2641 o droedfeddi o ddringo, tua 6-7 awr.
Gradd 3
Dylan Evans


Sadwrn 16 Rhagfyr
Y Foel Goch

9.15  9.30
Canol Pentref Llangwm, ger yr Eglwys SH 96624462. 

Cychwyn o ganol y pentref a cherdded ar hyd y ffordd, nes cyrraedd yr hen gapel, cyn troi i’r chwith ac ymlaen dros drac sy’n arwain i Gwm Llan. Cerdded I fyny’r ysgwydd at gopa Foel Goch. O’r copa, anelu am y Garnedd Fawr, a cherdded lawr heibio Bwlch y Greigwen a Cherrig y Gordref, cyn dilyn llwybyr heibio Rhyd yr Ewig, fydd yn arwain yn ôl i’r pentref.

Cerdded digon hawdd ar y cyfan, gydag ambell i ddarn gwlyb rhwng Foel Goch a Charnedd Fawr. Tua 7 milltir/11 km; esgyniad 1,500 troedfedd/460 m; tua 4 i 5 awr.
Gradd 2
Erwyn Jones 07717287915   erwynj@aol.com


TAITH AEAF YR ALBAN,  dydd Sadwrn 17 - 24 Chwefror 2024
Gwesty’r Crianlarich Hotel fydd llety’r clwb unwaith eto ar gyfer wythnos o fynydda gaeaf yn yr Alban. Mae’r pentref yn ganolfan hwylus iawn ar gyfer nifer fawr o fynyddoedd dros 3,000’ ac mae llwybrau cerdded tir is yn agos hefyd.
Mae’r gwesty’n cynnig llety cysurus a chroesawgar i fynyddwyr ac mae ystafell sychu ar gael.
Unwaith eto, sicrhawyd telerau ffafriol ar gyfer y daith ac mae’r prisiau isod yn cynnwys gwely, brecwast a chinio nos.
Nid oes unrhyw ystafelloedd sengl ar gael a bydd tâl ychwanegol o £20 y pen y noson i rai sydd eisiau ystafell ddwbl iddo/i ei hun. 

Prisiau ystafelloedd:
Ystafell ddwbl (cysgu 2 mewn 1 gwely dwbl) - £80 y pen y noson. £160 y cwpl y noson. 
Ystafell i dri (cysgu 3 mewn 3 gwely sengl) - £80.00 y pen y noson.
Ystafell Premier kings (cysgu 2 mewn 1 gwely dwbl mawr). £91 y pen y noson. £182 y cwpl y noson. 
Ystafell Twin (cysgu 2 mewn 2 wely sengl) - £80 y pen y noson. 
Ystafell Premier Twin (cysgu 2 mewn 2 wely sengl mawr) - £91 y pen y noson. 

Mae’r gwesty’n cadw ystafelloedd ar ein cyfer tan 24 Tachwedd. Er mwyn bod yn sicr o le, rhaid cael enwau a blaen-dal o 50% o'r cyfanswm unigol erbyn 24 Tachwedd. Ni ellir gwarantu y bydd ystafelloedd ar gael wedi hynny.

I gadarnhau lle. Cysylltwch â Keith ar crianlarich2024@outlook.com
Bydd angen i bawb dalu yn syth i gyfrif banc y Clwb gan ddefnyddio’r manylion yma:
Banc: HSBC
Enw’r cyfrif: Clwb Mynydda Cymru
Côd didoli: 40-09-03
Rhif y cyfrif: 51092138
Cyfeirnod i’w ddyfynnu: ALBAN + ENW’R AELOD

Nodwch eich enw fel cyfeirnod wrth wneud y taliad a danfonwch ebost i Dilys Phillips (Trysorydd yr clwb) ar craflwyn@globalnet.co.uk  ac i Keith ar crianlarich2024@outlook.com i gadarnhau hynny. Nodwch yn yr ebost pa fath o ystafell rydych yn dymuno ei chael – y cyntaf i’r felin fydd hi!

Mae teithiau’r clwb i’r Alban yn cynnig cyfle i’r rheiny sydd heb brofiad o fynydda mewn amodau gaeaf i roi cynnig arni – er bod amgylchiadau delfrydol o eira caled yn mynd yn fwy prin yn yr Alban hefyd. Rhaid bod yn barod i wynebu amodau heriol os am fentro tua’r copaoan ac mae caib rhew, pigau bach (spiderpick crampons) a phigau mawr (cramponau mawr) ac esgidiau cryfion pwrpasol yn hanfodol yn ogystal â’r math o ddillad gaeaf fyddai eu hangen ar gyfer tywydd gwael yng Nghymru.

Mae cryn ddiddordeb wedi ei ddangos eisoes, felly gorau po gyntaf i chi ddod i benderfyniad a chysylltu â Keith.





CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.